Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byw’n Iachach mewn 5 Cam (Cost-Effeithiol)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Byw’n Iachach mewn 5 Cam (Cost-Effeithiol)
Pobl a lle

Byw’n Iachach mewn 5 Cam (Cost-Effeithiol)

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2018 11:08 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Byw’n Iachach mewn 5 Cam (Cost-Effeithiol)
RHANNU

Ymddengys bod pris ein siopa wythnosol yn yr archfarchnad yn cynyddu ar hyn o bryd a gyda chostau ychwanegol megis aelodaeth â’r gampfa, gall byw’n iach fod yn ddrud iawn.

Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi dderbyn hyn! Edrychwch ar ein camau at fywyd iachach a sut i wneud y mwyaf o’ch cyflog!

Edrychwch am ddigwyddiadau ffitrwydd am ddim.

Mae pob un ohonom yn mwynhau darganfod rhywbeth sydd am ddim, ac yn aml mae digonedd o ddosbarthiadau ffitrwydd neu chwaraeon ar gael i chi gymryd rhan ynddynt. Dyma rai enghreifftiau i chi roi cynnig arnynt dros y mis nesaf:

  • Pêl-Rwyd Cerdded Am Ddim, ddydd Mercher 1-2pm  yng Nghanolfan Adnoddau Hightown
  • Mae Nos Lun yn Noson i Ferched ar draws y fwrdeistref sirol gyda sesiynau campfa, nofio, rhedeg a clubbercise am ddim.
  • Tenis Cardio yng Nghanolfan Tenis Wrecsam, dydd Gwener 6-7pm.

Dewch i wybod mwy am unrhyw un o’r gweithgareddau hyn drwy ffonio Terri Ritchie o dîm Wrecsam Egnïol ar 01978 297362.

Snapchat

Peidiwch â gwastraffu.

Mae teulu cyffredin yn y DU yn gwastraffu gwerth bron i £60 o fwyd bob mis, felly mae’n werth cynllunio eich prydau ymlaen llaw a bod yn llym am yr hyn rydych yn ei fwyta. Prynwch y bwydydd rydych eu hangen yn unig a chofiwch rewi ‘r bwydydd nad ydych yn eu defnyddio; mae bara’n un o’r bwydydd sy’n cael ei wastraffu amlaf ac mae’n rhewi’n dda iawn.  Bwytwch yr hyn sy’n weddill o’ch swper i’ch cinio’r diwrnod canlynol neu rhowch y bwyd yn y rhewgell i’w gadw at eto.

Beth am newid?

Fel arfer, cig a physgod yw’r bwydydd drutaf yn eich basged, ond digon hawdd yw eu newid am fwydydd eraill – hyd yn oed os ydych ond yn gwneud hyn rhyw unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Mae llawer o seigiau’n gweithio’n dda â chorbys (sef un o’r bwydydd rhataf i’w cael) er enghraifft, gallwch roi corbys mewn bolognese yn lle peth o’r cig, ychwanegu ffacbys at gyrri cyw iâr er mwyn defnyddio llai o gig neu ychwanegu mwy o ffa coch at chilli con carne  er mwyn gwneud mwy o brydau. Gallwch hefyd ddefnyddio llysiau yn lle cig, neu gael diwrnod llysieuol unwaith neu ddwywaith yr wythnos.

Ewch ar-lein.

Mae gwneud eich siopa ar-lein yn golygu eich bod yn gwybod yn union faint rydych yn ei wario ac yn ei gwneud yn haws i gadw at gyllideb. Mae hefyd yn haws i gadw at restr gan nad oes unrhyw beth o’ch blaen i’ch temtio, megis y pwdinau blasus a’r cynigion arbennig. Mae yna hefyd wefannau cymharu prisiau sydd eich galluogi chi i ddewis llond basged o fwydydd a chanfod y cyflenwr rhataf.

Prynwch eich bwydydd yn gyfan.

Os ydych chi’n mwynhau bwyta cyw iâr, ac yn bwyta llawer ohono, y dewis rhataf yw ei brynu’n gyfan! Gallwch ei brynu’n gyfan a’i dorri’n rhannau; dwy frest, dwy glun, dwy goes a dwy adain, a gallwch ddefnyddio’r esgyrn ar gyfer stoc.

Mae hefyd yn rhatach i chi brynu eich llysiau yn gyfan a heb eu pecynnu! Felly, cymrwch ychydig funudau yn ychwanegol i dorri eich ffrwythau a llysiau a chymharu prisiau bwydydd a werthir yn rhydd â phrisiau bwydydd wedi’u pecynnu. Mae bwydydd a werthir yn rhydd yn aml yn rhatach ac yn well i’r amgylchedd!

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hoffech chi fod yn hunangyflogedig? Os felly, dyma’ch cyfle chi! Hoffech chi fod yn hunangyflogedig? Os felly, dyma’ch cyfle chi!
Erthygl nesaf FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018 FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English