Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n codi ymwybyddiaeth o weithredu yn erbyn trais ar sail rhyw. Mae’r ymgyrch byd-eang hwn yn rhedeg am 16 diwrnod tan 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol.
Eleni, roeddem eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol drwy rannu gwybodaeth ar drais yn erbyn merched, ymddygiad rheolaethol a manylion cyswllt hanfodol sefydliadau ble gallwch gael cymorth.
Mae ein hymgyrch ‘Cadw eich calon’ wedi gweld llu o wirfoddolwyr yn rhannu ein calonnau ar draws Dinas Wrecsam. Os byddwch yn canfod un, rydym yn eich annog i’w chadw. Mae’r calonnau yn cynnwys cod QR arnynt sydd ar ôl sganio yn cyfeirio’r defnyddiwr at ddogfen o wybodaeth ddefnyddiol os byddan nhw eu hunain, neu bobl maent yn eu hadnabod angen cymorth.
Mae’r ymgyrch yn cael ei redeg ar y cyd gyda strydoedd mwy diogel, Heddlu Gogledd Cymru a swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Diolch hefyd i arwyddion ASAP yn Wrecsam.
Bydd digwyddiad i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ddydd Gwener, 24 Tachwedd 10-12 canol dydd.
Dywedodd Cyng Beverley Parry Jones, Cefnogwr trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghyngor Wrecsam: “Mae gennym i gyd rôl i’w chwarae i gadw pobl yn ddiogel, mae digwyddiadau fel Diwrnod Rhuban Gwyn a’n hymgyrch ‘cadw eich calon’ yn chwarae rôl fawr i godi’r mater o amgylch trais ar sail rhyw, yn ogystal â rhoi cyngor ar ble i gael cymorth.
Dywedodd Arolygydd Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru: “Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf; o gam-drin emosiynol neu gorfforol i gam-drin ariannol neu drais a cham-drin rhywiol. Mae’n unrhyw fath o ymddygiad treisgar, camdriniol neu fygythiol a gall ddigwydd i unrhyw un, ond ni ddylid byth ei dderbyn.
“Mae’n cael effaith ddinistriol ar y dioddefwyr sy’n dioddef y gamdriniaeth yma mewn gwahanol ffurfiau. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn help i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac yn rhoi hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen i’w riportio. Gan weithio ar y cyd gyda’n partneriaid mewn asiantaethau statudol a gwirfoddol, rydym yn cymryd pob cam y gallwn i amddiffyn y dioddefwr, y plant a’r tystion rhag niwed pellach ac i geisio atal unrhyw beth ddigwydd eto.”
GWASANAETHAU CYMORTH LLEOL A CHENEDLAETHOL:
- BAWSO (Black Association Women Step Out): 0800 7318 147
Mae BAWSO yn cynorthwyo pobl o gefndiroedd Du ac Ethnig Lleiafrifol a effeithir
gan gam-drin domestig a ffurfiau eraill o gam-drin. Mae hyn yn cynnwys llurgunio
organau cenhedlu merched (FGM), priodasau gorfodol, masnachu pobl a phuteindra. - Childline: 0800 1111
Mae cwnselwyr Childline ar radffôn yma i dderbyn galwadau ddydd a nos, 7 diwrnod
yr wythnos gan blant a phobl ifanc o dan 19 oed. - Choose2Change: 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
Gwasanaeth sy’n cynorthwyo dynion sy’n cam-drin ac sydd eisiau newid y ffordd maent
yn ymddwyn eu perthynas ac sy’n cynnig cymorth i’w cymar yn ystod y cyfnod hwn. - Cyfraith Clare: www.clares-law.com/
Fe’i hadwaenir hefyd fel y Cynllun Dadlennu Trais Domestig. Mae’n bolisi heddlu yn
rhoi’r hawl i chi wybod os oes gan eich cymar orffennol o gam-drin. - Crimestoppers: 0800 555 111
Elusen annibynnol yn y DU yn derbyn gwybodaeth am drosedd yn anhysbys. - Dasu: www.dasunorthwales.co.uk/
Mae DASU yn cynnig ymyriadau cydlynol ac wedi’u targedu proffesiynol i bobl sy’n
dioddef cam-drin domestig ledled siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam. - Dewis Cymru: www.dewis.wales
Eich siop un stop ar gyfer gwasanaethau lleol sydd ar gael i chi. - Galop: 0800 999 5428
Rydym yn cynorthwyo pobl LHDT+ sydd wedi profi cam-drin a thrais. - GISDA: www.gisda.org
Mae GISDA yn elusen sy’n rhoi cymorth dwys a chyfleoedd i bobl ifanc yn byw yng
ngogledd Cymru. - Gorwel: 0300 111 2121
Rydym yn uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu
gwasanaethau o ansawdd er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef cam-drin domestig.
Rydym yn cydweithredu gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid o
Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir Gogledd Cymru. - Llinell Gymorth Hourglass: 0808 8088 141
Mae Hourglass yn gweithio er mwyn herio ac atal cam-drin pobl hŷn, drwy ddarparu
gwasanaethau a hyfforddiant. - Karma Nirvana: 0800 5999 247
Yn cynorthwyo dioddefwyr troseddau anrhydedd a phriodasau gorfodol. - MATCHMothers: www.matchmothers.org/
Mae MATCHmothers yn elusen sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth ac anfeirniadol i
famau ar wahân i’w plant mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau. - Llinell Gymorth Cyngor i Ddynion: 0808 8010 327
Yn rhoi cyngor domestig i ddynion. - Llinell Gymorth Stelcio Cenedlaethol: 0808 802 0300
Yma er mwyn lleihau’r risg o drais ac ymosodiad drwy ymgyrch, addysg a chymorth. - Heddlu Gogledd Cymru: www.northwales.police.uk/
Os ydych wedi dioddef neu’n gweld digwyddiad, hysbysu am faterion difrys drwy
ein cyfleuster ar-lein neu 101 / 0300 330 0101 neu mewn argyfwng, ffoniwch 999. - Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC): 01248 670 628
Mae ein llinell gymorth gyfrinachol yn rhoi gwybodaeth a chymorth emosiynol i
oroeswyr treisio neu gam-drin rhywiol, a phobl sy’n cynorthwyo goroeswr. - Relate: www.relate.org.uk / 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
Mae gwasanaethau Relate yma i gynorthwyo cryfhau cysylltiadau ledled Cymru, drwy
gwnsela unigolion, parau, teuluoedd neu bobl ifanc. Boed eich bod yn byw ar eich
pen eich hun, neu mewn perthynas, LHDTQRh+ neu’n ddi-fonogamaidd, rydym yma i
gynorthwyo. - Llinell gymorth RESPECT: 0808 8024 040
A oes gennych bryderon am eich ymddygiad tuag at eich cymar ac eisiau stopio? - Y Samariaid: Rhadffôn 116 123
Gwasanaeth gwrando 24 awr. - Stepping Stones: 01978 352 717
Mae Stepping Stones yn cynnig cymorth a gwasanaeth cwnsela proffesiynol i
oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn blant. - STOPCE: 01332 585371
Mae ein rhwydwaith yn cysylltu gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm mewn creu’r
ymateb gorau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd sydd wedi dioddef camfanteisio yn
ystod plentyndod. - Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru: 0300 30 30 159
Yn rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd. - Y Rhuban Gwyn: www.whiteribbon.org.uk
Y Rhuban Gwyn ydy’r brif elusen sy’n ceisio cael dynion a bechgyn i ddod â thrais yn
erbyn merched a genethod i ben. - Cymorth i Ferched Cymru – Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800
Yn darparu gwasanaeth llinell gymorth gwybodaeth a chyfeirio rhadffôn dwyieithog
dydd a nos i ferched, dynion a phlant sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.