Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadw eich calon-diogelu eich hun ac eraill rhag camdriniaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cadw eich calon-diogelu eich hun ac eraill rhag camdriniaeth
Pobl a lle

Cadw eich calon-diogelu eich hun ac eraill rhag camdriniaeth

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 20, 2023 9:46 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Cadw eich calon-diogelu eich hun ac eraill rhag camdriniaeth
RHANNU

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n codi ymwybyddiaeth o weithredu yn erbyn trais ar sail rhyw. Mae’r ymgyrch byd-eang hwn yn rhedeg am 16 diwrnod tan 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol.

Eleni, roeddem eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol drwy rannu gwybodaeth ar drais yn erbyn merched, ymddygiad rheolaethol a manylion cyswllt hanfodol sefydliadau ble gallwch gael cymorth.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae ein hymgyrch ‘Cadw eich calon’ wedi gweld llu o wirfoddolwyr yn rhannu ein calonnau ar draws Dinas Wrecsam.   Os byddwch yn canfod un, rydym yn eich annog i’w chadw. Mae’r calonnau yn cynnwys cod QR arnynt sydd ar ôl sganio yn cyfeirio’r defnyddiwr at ddogfen o wybodaeth ddefnyddiol os byddan nhw eu hunain, neu bobl maent yn eu hadnabod angen cymorth. 

Mae’r ymgyrch yn cael ei redeg ar y cyd gyda strydoedd mwy diogel, Heddlu Gogledd Cymru a swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Diolch hefyd i arwyddion ASAP yn Wrecsam. 

Bydd digwyddiad i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ddydd Gwener, 24 Tachwedd 10-12 canol dydd.

Dywedodd Cyng Beverley Parry Jones, Cefnogwr trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghyngor Wrecsam:  “Mae gennym i gyd rôl i’w chwarae i gadw pobl yn ddiogel, mae digwyddiadau fel Diwrnod Rhuban Gwyn a’n hymgyrch ‘cadw eich calon’ yn chwarae rôl fawr i godi’r mater o amgylch trais ar sail rhyw, yn ogystal â rhoi cyngor ar ble i gael cymorth.

Dywedodd Arolygydd Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru: “Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf; o gam-drin emosiynol neu gorfforol i gam-drin ariannol neu drais a cham-drin rhywiol. Mae’n unrhyw fath o ymddygiad treisgar, camdriniol neu fygythiol a gall ddigwydd i unrhyw un, ond ni ddylid byth ei dderbyn.

“Mae’n cael effaith ddinistriol ar y dioddefwyr sy’n dioddef y gamdriniaeth yma mewn gwahanol ffurfiau. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn help i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac yn rhoi hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen i’w riportio. Gan weithio ar y cyd gyda’n partneriaid mewn asiantaethau statudol a gwirfoddol, rydym yn cymryd pob cam y gallwn i amddiffyn y dioddefwr, y plant a’r tystion rhag niwed pellach ac i geisio atal unrhyw beth ddigwydd eto.”

GWASANAETHAU CYMORTH LLEOL A CHENEDLAETHOL:

  • BAWSO (Black Association Women Step Out): 0800 7318 147
    Mae BAWSO yn cynorthwyo pobl o gefndiroedd Du ac Ethnig Lleiafrifol a effeithir
    gan gam-drin domestig a ffurfiau eraill o gam-drin. Mae hyn yn cynnwys llurgunio
    organau cenhedlu merched (FGM), priodasau gorfodol, masnachu pobl a phuteindra.
  • Childline: 0800 1111
    Mae cwnselwyr Childline ar radffôn yma i dderbyn galwadau ddydd a nos, 7 diwrnod
    yr wythnos gan blant a phobl ifanc o dan 19 oed.
  • Choose2Change: 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
    Gwasanaeth sy’n cynorthwyo dynion sy’n cam-drin ac sydd eisiau newid y ffordd maent
    yn ymddwyn eu perthynas ac sy’n cynnig cymorth i’w cymar yn ystod y cyfnod hwn.
  • Cyfraith Clare: www.clares-law.com/
    Fe’i hadwaenir hefyd fel y Cynllun Dadlennu Trais Domestig. Mae’n bolisi heddlu yn
    rhoi’r hawl i chi wybod os oes gan eich cymar orffennol o gam-drin.
  • Crimestoppers: 0800 555 111
    Elusen annibynnol yn y DU yn derbyn gwybodaeth am drosedd yn anhysbys.
  • Dasu: www.dasunorthwales.co.uk/
    Mae DASU yn cynnig ymyriadau cydlynol ac wedi’u targedu proffesiynol i bobl sy’n
    dioddef cam-drin domestig ledled siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam.
  • Dewis Cymru: www.dewis.wales
    Eich siop un stop ar gyfer gwasanaethau lleol sydd ar gael i chi.
  • Galop: 0800 999 5428
    Rydym yn cynorthwyo pobl LHDT+ sydd wedi profi cam-drin a thrais.
  • GISDA: www.gisda.org
    Mae GISDA yn elusen sy’n rhoi cymorth dwys a chyfleoedd i bobl ifanc yn byw yng
    ngogledd Cymru.
  • Gorwel: 0300 111 2121
    Rydym yn uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu
    gwasanaethau o ansawdd er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef cam-drin domestig.
    Rydym yn cydweithredu gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid o
    Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir Gogledd Cymru.
  • Llinell Gymorth Hourglass: 0808 8088 141
    Mae Hourglass yn gweithio er mwyn herio ac atal cam-drin pobl hŷn, drwy ddarparu
    gwasanaethau a hyfforddiant.
  • Karma Nirvana: 0800 5999 247
    Yn cynorthwyo dioddefwyr troseddau anrhydedd a phriodasau gorfodol.
  • MATCHMothers: www.matchmothers.org/
    Mae MATCHmothers yn elusen sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth ac anfeirniadol i
    famau ar wahân i’w plant mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau.
  • Llinell Gymorth Cyngor i Ddynion: 0808 8010 327
    Yn rhoi cyngor domestig i ddynion.
  • Llinell Gymorth Stelcio Cenedlaethol: 0808 802 0300
    Yma er mwyn lleihau’r risg o drais ac ymosodiad drwy ymgyrch, addysg a chymorth.
  • Heddlu Gogledd Cymru: www.northwales.police.uk/
    Os ydych wedi dioddef neu’n gweld digwyddiad, hysbysu am faterion difrys drwy
    ein cyfleuster ar-lein neu 101 / 0300 330 0101 neu mewn argyfwng, ffoniwch 999.
  • Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC): 01248 670 628
    Mae ein llinell gymorth gyfrinachol yn rhoi gwybodaeth a chymorth emosiynol i
    oroeswyr treisio neu gam-drin rhywiol, a phobl sy’n cynorthwyo goroeswr.
  • Relate: www.relate.org.uk / 0300 003 2340 / enquiries.cymru@relate.org.uk
    Mae gwasanaethau Relate yma i gynorthwyo cryfhau cysylltiadau ledled Cymru, drwy
    gwnsela unigolion, parau, teuluoedd neu bobl ifanc. Boed eich bod yn byw ar eich
    pen eich hun, neu mewn perthynas, LHDTQRh+ neu’n ddi-fonogamaidd, rydym yma i
    gynorthwyo.
  • Llinell gymorth RESPECT: 0808 8024 040
    A oes gennych bryderon am eich ymddygiad tuag at eich cymar ac eisiau stopio?
  • Y Samariaid: Rhadffôn 116 123
    Gwasanaeth gwrando 24 awr.
  • Stepping Stones: 01978 352 717
    Mae Stepping Stones yn cynnig cymorth a gwasanaeth cwnsela proffesiynol i
    oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn blant.
  • STOPCE: 01332 585371
    Mae ein rhwydwaith yn cysylltu gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm mewn creu’r
    ymateb gorau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd sydd wedi dioddef camfanteisio yn
    ystod plentyndod.
  • Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru: 0300 30 30 159
    Yn rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd.
  • Y Rhuban Gwyn: www.whiteribbon.org.uk
    Y Rhuban Gwyn ydy’r brif elusen sy’n ceisio cael dynion a bechgyn i ddod â thrais yn
    erbyn merched a genethod i ben.
  • Cymorth i Ferched Cymru – Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800
    Yn darparu gwasanaeth llinell gymorth gwybodaeth a chyfeirio rhadffôn dwyieithog
    dydd a nos i ferched, dynion a phlant sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Parth buddsoddi i Sir Wrecsam a Sir Fflint
Erthygl nesaf Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam! Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English