Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
Y cyngorPobl a lle

Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 27, 2023 3:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
RHANNU

Erthygl gwadd – Freedon Leisure

Mae canolfannau hamdden yn Wrecsam wedi trechu mewn cystadleuaeth ac ennill yr aur yn ddiweddar yn Seremoni Gwobrau Freedom Leisure.

Roedd Wrecsam ar y brig wrth iddi ennill Ardal y Flwyddyn ac, i goroni’r cwbl, gwnaeth y Byd Dŵr greu sblash hefyd ac ennill Canolfan Hamdden Orau Cymru a Gogledd Lloegr.

Mae Freedom Leisure yn ymddiriedolaeth nid-er-elw sy’n gweithredu dros 100 o ganolfannau hamdden a diwylliannol ledled Cymru a Lloegr. Wrth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam maen nhw’n gweithredu naw canolfan hamdden ar draws Wrecsam gan gynnwys y Byd Dŵr, Gwyn Evans, Y Waun a Stadiwm Queensway.

Gwnaeth cydweithwyr o bob rhan o Wrecsam, a oedd yn cynrychioli’r holl ganolfannau, ymgasglu yn ddiweddar yn y Byd Dŵr i dderbyn y wobr oddi wrth Ivan Horsfall-Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure, ac roedden nhw wrth eu boddau hefyd i groesawu Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod arweiniol Cyngor Wrecsam ar gyfer hamdden, i’r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Mae mynediad at gyfleusterau hamdden modern o ansawdd da yn bwysig i iechyd a lles y gymuned, felly mae’n grêt i ni i allu dweud fod gennym rhai o’r cyfleusterau gorau yn y sir yn y fan hon yn Wrecsam.”

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure ar gyfer Gogledd Cymru: “Rwyf wrth fy modd fod Wrecsam wedi ennill y wobr hon. Mae cyfleusterau ffantastig gennym ni a chydweithwyr anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd i wella bywydau drwy hamdden. Edrychwn ymlaen at groesawu hyd yn oed rhagor o’r gymuned yn Wrecsam i’n canolfannau gwobrwyedig dros y dyddiau a’r misoedd nesaf.”

Ers 2016, pan ddechreuodd y bartneriaeth, cafwyd buddsoddiad sylweddol yn yr holl ganolfannau hamdden, gan gynnwys ailwampio gym, gwella mesurau effeithlonrwydd gan gynnwys gosod gorchuddion pyllau nofio a phedwar maes chwarae 3G ychwanegol

Mae bron i 3,000 o blant ar hyd a lled Wrecsam ar raglen wobrwyedig Dysgu Nofio. Maen nhw’n dysgu sgil gydol oes o nofio bob wythnos. Mae dros filiwn o ymweliadau â’r canolfannau bob blwyddyn wrth i’r cwsmeriaid fwynhau amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, nofio a sesiynau yn y gym gan sicrhau fod y gymuned leol yn Wrecsam yn aros yn actif i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u lles.

Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
Felicity Griffiths (Rheolwr Cyffredinol ar y dde) a Ivan Horsfall-Turner (Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure ar y chwith)
Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
Richard Milne (Rheolwr Ardal ar y dde) a Ivan Horsfall-Turner (Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure ar y chwith)
Rhannu
Erthygl flaenorol Cadw eich calon-diogelu eich hun ac eraill rhag camdriniaeth Cadw eich calon-diogelu eich hun ac eraill rhag camdriniaeth
Erthygl nesaf Christmas carols Ymunwch â ni ar gyfer Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam cyntaf erioed ar 5 Rhagfyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English