Erthyl gwadd – Hwb
Mae ein plant yn treulio mwy o amser ar-lein: ar gyfer yr ysgol, wrth chwarae gemau ar y cyfrifiadur neu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’r teulu. Er bod llawer o fanteision i gysylltu ar-lein, rydyn ni’n gwybod y gall fod rhai anfanteision hefyd.
Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn deall sut i gadw mor ddiogel â phosibl – a gwybod sut i gael cymorth os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae’r un mor bwysig i rieni a gofalwyr ddeall hyn hefyd.
Dyna pam rydyn ni wedi gweithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr blaenllaw sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein i gynnwys amrywiaeth o wybodaeth a chyngor syml a pherthnasol ar dudalennau Cadw’n Ddiogel Ar-lein gwefan Hwb.
Mae gwybodaeth benodol i rieni a gofalwyr, gan gynnwys canllawiau sy’n ymdrin â’r hyn sydd angen i chi ei wybod am y cyfryngau cymdeithasol a’r apiau gemau mwyaf poblogaidd y mae plant yn eu defnyddio heddiw.
Mae yna hefyd ddolenni sy’n cyfeirio at ble i fynd i gael cyngor a chymorth cyfrinachol, yn ogystal â gwybodaeth am sut i roi gwybod am unrhyw broblemau.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR