Music

Defnyddiwyd ‘Dyrchafwn ‘Da’n Gilydd’  fel ein llinell glo yng nghystadleuaeth Dinas Diwylliant 2025.

Roedd y gystadleuaeth, slogan ac ymgyrch lliwgar ynghylch defnyddio diwylliant i godi’r bar ar ein huchelgeisiau a dyheadau.

Er na chawsom y teitl ar gyfer 2025, mae’r momentwm a’r datblygiad a gynhyrchwyd drwy fod yn rhan o gystadleuaeth wedi parhau gyda gwybodaeth a hyder cynyddol o gynnig diwylliannol amrywiol yn Wrecsam.

Mae gennym gelfyddydau a sin gerddoriaeth fywiog, clwb pêl-droed gwych (gyda pherchnogion gwych), Safle Treftadaeth y Byd, busnesau o’r radd flaenaf a nifer o gymunedau brwdfrydig.

Yn ogystal, rydym wedi cael llwyddiannau eraill, Tŷ Pawb yn dod i’r rownd derfynol Gwobr Amgueddfa Cronfa Celf y Flwyddyn 2022 a statws dinas wedi’i ddyfarnu i Wrecsam. Bydd y dogfennau swyddogol yn cadarnhau fod Wrecsam yn dod yn Ddinas o 1af Medi 2022

Rydym yn parhau i godi fel cymuned a defnyddio diwylliant unigryw Wrecsam fel catalydd i newidiadau cadarnhaol fel yr ydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau prysur dros pop penwythnos ym mis Medi, gan gynnwys:

Dydd Sadwrn 3 Medi:

  • Ailddatganiad Rhyddid y Fwrdeistref i’r Cymry Brenhinol Llwyn isaf 11am

Dydd Sadwrn 10 Medi:

  • Gwasanaeth i westeion a wahoddwyd yn Eglwys San Silyn i ddathlu dyfarniad Statws Dinas. Eglwys San Silyn 12pm.
  • CPD Wrecsam v CP Maidenhead Unedig Y Cae Ras 3pm.
  • Cerddoriaeth fyw gan The Royston Club a gwesteion Llwyn isaf o 12pm ymlaen.

Dydd Sadwrn 17 Medi:

  • Diwrnod Hwyl Dinas Wrecsam, Gweithgareddau yng nghanol y ddinas i’r holl deulu.

Dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Medi.

  • Gŵyl Fwyd Wrecsam (Wrexham Feast) Maes Parcio Waterworld o 10am ymlaen
  • CPD Wrecsam v Torquay Unedig Y Cae Ras 3pm

Gyda’r rhaglen ddogfen ‘Welcome to Wrexham’ yn cynnwys pryniant CPD Wrecsam yn cael ei ddarlledu’n fuan ar wasanaethau ffrydio o amgylch y byd, mae’n debygol y bydd mwy o ffocws ar y rhanbarth a CPD Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Drwy weithio gyda’n gilydd gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i weld Dinas Wrecsam a Sir Wrecsam yn ffynnu a thyfu, gan wneud y gorau o bob cyfle sydd yn ymddangos.

“Rydym yn awyddus i edrych ar nifer o gyfleoedd fydd yn dod o ganlyniad i fod yn Brif Ddinas Gogledd Cymru.

“Hefyd rydym wedi cytuno gyda’n partneriaid y byddwn yn datblygu ein cynnig diwylliannol fel yr ydym yn symud tuag at ail ymgeisio am y teitl Dinas Diwylliant 2029.

“Bydd rhaglen o ddigwyddiadau ym mis Medi yn dangos beth yr ydym yn ei wneud yn dda yn Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Rydym eisoes wedi sicrhau Cronfa Codi’r Gwastad ar gyfer ardal Dyfrbont Pontcysyllte ac yn aros i weld os ydym wedi bod yn llwyddiannus yn ein cynnig a ailgyflwynwyd ar gyfer ardal Prosiect Porth Wrecsam. Bydd y cyllid hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad Porth Wrecsam.

“Gan edrych yn y tymor byr, bydd mis prysur yn llawn o ddigwyddiadau yn Wrecsam yn helpu i ddenu nifer yr ymwelwyr pellach i’r stryd fawr.

“Mae hwn wir yn amser cyffrous i Wrecsam yn lleol, yn genedlaethol, a rhyngwladol ac rwy’n awyddus i ddathlu ein llwyddiannau ân weledigaeth i’r dyfodol.”

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR

Y Cymry Brenhinol i arfer eu hawl i Orymdeithio trwy strydoedd Wrecsam – 3 Medi 2022