Ar y cyd â FCC Environment, sy’n rheoli ein tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam, rydym yn annog pobl i gadw eu hunain, eu plant a’u hanifeiliaid anwes yn ddiogel wrth ymweld â’n safleoedd.
Mae yna nifer o beryglon posib mewn canolfan ailgylchu, felly rydym yn awyddus i roi rhywfaint o awgrymiadau i chi i wneud yn siŵr y bydd eich ymweliad nesaf yn brofiad diogel a dymunol.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Sut i fod yn ddiogel
• Didoli cyn dod
Mae didoli eich eitemau ymlaen llaw yn eich helpu i fynd i mewn ac allan o’ch canolfan ailgylchu yn gyflym ac yn effeithlon, gan leihau’r siawns o ddamwain.
• Osgoi llithro, baglu a syrthio…beth sydd am eich traed?
Mae tywydd cynhesach yr haf yn aml yn golygu gwisgo fflip-fflops neu sandalau, ond cymrwch ofal eich bod yn gwisgo esgidiau mwy addas i ddod i’ch canolfan ailgylchu. Wyddoch chi ddim beth allai fod wedi disgyn ar lawr dan eich traed, neu pwy allai ollwng rhywbeth trwm, felly mae’n rhaid i chi wisgo esgidiau call. Chewch chi ddim mynd yn droednoeth ar unrhyw gyfrif!
• Dilyn yr arwyddion
Mae ein staff wrth law i’ch arwain chi i’r mannau gwaredu priodol. Mae’r mannau hyn wedi’u gosod yn glir gydag arwyddion i’ch helpu chi i ddod o hyd iddyn nhw. Bydd bagio’r car hefyd yn golygu ei bod yn haws i chi fynd yn agosach atyn nhw.
• Cadw plant ac anifeiliaid anwes yn y car
Gyda cheir, faniau a thryciau’n bagio ac eitemau swmpus yn cael eu symud o gwmpas, mae’n bwysig bod plant (dan 16 oed), yn ogystal ag anifeiliaid anwes, yn aros yn y cerbyd yn ddiogel.
Mae plant yn aml yn ‘awyddus i fod yn wyrdd’ ac eisiau helpu yn y ganolfan ailgylchu, ond mae yna ffyrdd eraill iddyn nhw wneud hyn. Er enghraifft, mae gadael iddyn nhw ddidoli’r deunyddiau gartref yn ffordd o’u cynnwys nhw yn y broses ailgylchu, ond eto’n eu cadw’n ddiogel.
• Gyrru’n ystyriol
Mae terfyn cyflymder o 5mya yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn, a therfyn o 4mya yn y ddwy ganolfan arall. Cadwch at y terfyn cyflymder penodol. Gyda cherbydau’n symud i mewn ac allan o’r safle drwy’r amser, gofynnwn i bob ymwelydd gymryd gofal ychwanegol.
Gall y camau syml hyn eich helpu chi i osgoi damweiniau 🙂
“Byddwch yn ymwybodol”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n annog pobl yn gryf i ddilyn y cyngor hwn i wneud yn siŵr bod eu hymweliadau â’n canolfannau ailgylchu’n ddiogel o hyn ymlaen.
“Mae’n hynod bwysig sylweddoli bod peryglon posib mewn canolfan ailgylchu, gyda gwrthrychau mawr yn cael eu symud o gwmpas yn aml. Byddwch yn ymwybodol bob amser o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas chi pan fyddwch chi yno.”
Ein tair canolfan ailgylchu
I’ch atgoffa, dyma leoliadau ein canolfannau ailgylchu:
Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
Banc Wynnstay, Plas Madoc
Y Lodge, Brymbo
Ewch ar wefan y cyngor i ganfod rhestr fanwl o’r deunyddiau y gallwch chi eu hailgylchu yn ein canolfannau.
Mae polisi dim ysmygu llym ym mhob un o’n canolfannau ailgylchu, a chewch chi ddim defnyddio ffonau symudol tra byddwch chi ar y safle.
Dydyn ni ddim yn derbyn deunyddiau gwastraff masnachol yn ein tair canolfan ailgylchu. Hefyd, fyddwn ni ddim yn derbyn unrhyw gerbyd dros 3.5 tunnell ar y safleoedd (e.e. faniau ceffylau mawr, trelars dwy echel).
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION