Ym mis Mehefin bydd canol tref Wrecsam yn cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru 2022 yn swyddogol ar 18 Mehefin.
Ar ôl cael ei ohirio’r llynedd oherwydd y pandemig, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd llai o gyfyngiadau ar waith eleni ar gyfer y prif ddigwyddiad awyr agored hwn ac y gall pawb ddod at ei gilydd am ddiwrnod haeddiannol i’r teulu yn rhad ac am ddim.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r “orymdaith”, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr, o’r Barics i Lwyn Isaf yn barod wedi’i gadarnhau yn cynnwys band gorymdeithio! Bydd cynrychiolwyr o’r tri llu yn gorymdeithio a byddant yn cael cwmni cadetiaid ac wrth gwrs cyn-filwyr o bob rhan o Ogledd Cymru.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion dros y misoedd nesaf felly cadwch lygad amdanynt ar y blog hwn, y cyfryngau lleol a rhanbarthol ac wrth gwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Yn falch a breintiedig i gynnal y digwyddiad hwn”
Dywedodd Y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Unwaith eto byddwn yn falch a breintiedig i gynnal y digwyddiad hwn lle byddwn yn dathlu ein lluoedd arfog a’u teuluoedd ac yn diolch iddynt am eu gwasanaeth a’u haberth i sicrhau fod pob un ohonom yn aros yn ddiogel yn ein cymunedau ac yn mwynhau’r rhyddid y maent wedi’i ddiogelu i ni dros sawl blwyddyn.
“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i bawb ac mae ein milwyr wedi cael eu galw i helpu gyda gyrru ambiwlansys, sefydlu canolfannau profi ac yn fwy diweddar i helpu’r GIG. Maent wedi ateb y ceisiadau hyn gan yr awdurdodau Sifil i helpu ac unwaith eto diogelu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a byddwn yn cydnabod y gwasanaeth parhaus hwn yn ystod y digwyddiad.
“Diolch i chi am eich gwasanaeth”
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu personél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a’u teuluoedd a fydd yn ymuno â ni ar y diwrnod wrth i ni ddiolch yn swyddogol a haeddiannol am eu gwasanaeth.”
Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych a gallwch weld beth ddigwyddodd y tro diwethaf i Wrecsam gynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru isod.
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr, “Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad i’w fwynhau ac mae wedi denu torf fawr yn y gorffennol a oedd wedi mwynhau gweld ein personél y lluoedd arfog a diolch iddynt yn bersonol.
“Rydym yn parhau i wneud trefniadau ar gyfer digwyddiad teuluol anferth ond gan fod Covid yn dal o gwmpas byddwn hefyd yn ystyried cael Cynllun B os bydd yn rhaid i ni gyfyngu’r digwyddiad oherwydd cyfyngiadau ar y niferoedd a all fynychu.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL