Erthygl gwestai o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam
O’r 28 Tachwedd, gall aelodau o’r cyhoedd alw i mewn i Shopmobility Wrecsam i gynhesu, i gael diod gynnes a siarad gyda staff cyfeillgar o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam os hoffent sgwrs neu gwmni – wrth aros am eu cludiant neu lochesu o dywydd y gaeaf.
Mae te a choffi am ddim ar gael o’r peiriant hunanwasanaethu, a darperir bisgedi ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael yn ystod amseroedd agor arferol Shopmobility, ar ddydd Llun a dydd Iau rhwng 10am a 4pm.
Dywedodd Dawn Roberts-McCabe, Prif Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam: “Os oes unrhyw un eisiau man cynnes a diogel yn y gaeaf, mae croeso iddynt yn Shopmobility Wrecsam i fwynhau diod gynnes a chael cwmni cyfeillgar, ac i lochesu rhag oerni’r gaeaf tra eu bod yn aros am eu cludiant gartref – galwch heibio!”
Os yw’r cyhoedd yn dymuno rhannu pam eu bod eisiau man cynnes, bydd staff Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn barod i wrando ac yn atgyfeirio lle bo’n bosibl.
Os bydd aelodau’r cyhoedd angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol gyda chostau byw, bydd staff AVOW yn eu helpu i gysylltu â sefydliadau a all ddarparu cefnogaeth.