Efallai eich bod yn cofio ein newyddion da fis diwethaf am y llifoleuadau newydd a osodwyd ar y caeau chwarae yn Ysgol Clywedog, ar Ffordd Rhuthun.
Wel, mae gennym ragor o newyddion da.
Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar osod cae 3G newydd ar y safle hamdden/ysgol aml-ddefnydd – sy’n golygu y bydd unrhyw glwb sy’n awyddus i ddefnyddio’r cae yn cael mwy o fudd ohono.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Gwaith ar y cae newydd
Bydd gwaith i osod y cae 3G newydd yn dechrau ar ddiwedd y mis, a dylai’r gwaith ddod i ben ar ddechrau mis Rhagfyr.
Rydym eisoes wedi cysylltu â chlybiau a defnyddwyr eraill i roi gwybod iddynt am y gwelliannau sydd ar y gweill a byddant yn gallu cymryd mantais o’r cyfleusterau newydd yn y gaeaf.
A diolch i’r llifoleuadau newydd, bydd chwarae yn ystod y gaeaf yn fwy o hwyl o lawer!
“Gwych yw gweld mwy o welliannau”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Gwych yw gweld mwy o welliannau i’r cae bob tywydd yn Ysgol Clywedog – yn enwedig o ystyried ein bod ond newydd osod y llifoleuadau newydd.
“Hoffwn ddiolch i staff Cyngor Wrecsam a Freedom Leisure am eu gwaith i sicrhau’r gwelliannau hyn i’r cae, ac rwyf yn falch iawn o weld y bydd gan glybiau lleol ddewis eang o gyfleusterau gwell i chwarae a hyfforddi ynddynt ar draws y fwrdeistref sirol.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Clywedog: “Rydym yn falch iawn o’r cyhoeddiad ynglŷn â’r cae 3G newydd, gan y daw ochr yn ochr â nifer o welliannau eraill i’r ysgol – yn cynnwys ailddatblygu’r ystafelloedd addysg a TG a chreu ardal fynediad newydd a gwell.
“Fel y gwelliannau diweddar eraill i’r cyfleusterau hamdden, ni fuasai amseriad hyn wedi gallu bod yn well.”
Os oes gannoch ddiddordeb mewn archebu’r cae, cysylltwch â Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog ar 01978 262787, neu e-bostiwch clywedogLC@freedom-leisure.co.uk; neu ewch i wefan Freedom Leisure.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD