Mae Cyngor Wrecsam yn ystyried diweddariadau posib i Orchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) yng nghanol y ddinas, gan gynnwys rheolau strydoedd unffordd, mannau parcio i bobl anabl, parthau i gerddwyr a pharcio ar y stryd.
Y nod yw helpu i gadw cerddwyr a gyrwyr yn ddiogel, ac er y bydd nifer o’r GRhT a ddiweddarwyd ond yn atgyfnerthu trefniadau presennol, byddai rhai newidiadau ar hyd rhai ffyrdd a strydoedd pe bai’r cynigion yn cael eu mabwysiadu.
Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:
- ‘Bolardiau codi a gostwng’ a reolir yn electronig i gyfyngu mynediad i Stryt Efrog.
- Mannau parcio estynedig ar Stryt Efrog, a fydd yn cael eu dynodi fel mannau i dacsis.
- Traffig unffordd ar hyd rhannau o Allt y Ficerdy, Stryt yr Allt a Stryt y Rhaglaw.
- Newid y cilfannau ar Ffordd Rhosddu (y tu allan i fanc Nat-West) a Stryt Holt (drws nesaf i Tŷ Pawb) i fod yn fannau parcio i bobl anabl.
Mae’r Cyngor yn ysgrifennu at drigolion a busnesau sydd ger y ffyrdd a effeithir, ond maent hefyd yn gwahodd y cyhoedd i gysylltu gydag unrhyw safbwyntiau. Anfonwch e-bost at citycentretraffic@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno safbwyntiau yw Awst 9.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Phriffyrdd Cyngor Wrecsam: “Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig o gymorth i sicrhau symudiad diogel cerbydau a cherddwyr, ac yn chwarae rhan bwysig wrth gadw canol y ddinas i redeg yn esmwyth.
“Mae angen diweddaru rhai o’r GRhT yn y ddinas i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd mae pobl yn teithio ac yn symud o amgylch y lle, a dyna pam ein bod yn edrych ar y cynigion hyn.
“Os ydych eisiau gwybod mwy neu os oes genych unrhyw sylwadau, cysylltwch.
“Fel dinas uchelgeisiol a blaengar, mae’n hanfodol bod gennym drefniadau traffig diogel ac effeithiol sydd o gymorth wrth fodloni anghenion busnesau, gweithwyr, gyrwyr anabl, defnyddwyr tacsis, cerddwyr a phawb sy’n ymweld â Wrecsam.”