Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad teithio cynaliadwy i fusnesau lleol ar 17 Gorffennaf – rhowch nodyn yn y dyddiadur!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Digwyddiad teithio cynaliadwy i fusnesau lleol ar 17 Gorffennaf – rhowch nodyn yn y dyddiadur!
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Digwyddiad teithio cynaliadwy i fusnesau lleol ar 17 Gorffennaf – rhowch nodyn yn y dyddiadur!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 9, 2024 9:56 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cycling
RHANNU

Gwahoddir busnesau lleol i Dŵr Rhydfudr ddydd Mercher 17 Gorffennaf am gyfle gwych i gymryd rhan mewn trafodaeth agored a rhannu gwybodaeth ynglŷn â theithio llesol a chynaliadwy.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 12pm yn yr Atriwm (ar y trydydd llawr) a bydd cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gan gynnwys aelodau o’n tîm Strategaeth Trafnidiaeth ein hunain.

Bydd ein tîm yn cyflwyno syniadau ar gyfer isadeiledd teithio llesol ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam ac yn gofyn i bobl ddangos ar fap rhyngweithiol lle hoffent weld pethau’n gwella, lle mae yno broblemau a’r bylchau y gellid eu pontio ar y stad.

Ymysg y siaradwyr eraill fydd Trafnidiaeth Cymru, Life on Wheels, darparwyr pwyntiau gwefru cerbydau trydan Costelloes EV, Sustrans, Living Streets, Cycling UK a Pedal Power.

Cewch gyfle hefyd i rwydweithio â busnesau eraill, rhannu’ch syniadau ynglŷn â theithio llesol a chynaliadwy a thrafod ffyrdd o ddatrys problemau.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae hwn yn gyfle bendigedig i fusnesau ddod ynghyd i leisio’u barn ynglŷn â rhwystrau sydd o bosib yn eu hatal nhw a’u gweithlu i ddefnyddio teithio llesol a chynaliadwy’n amlach. Rydyn ni eisiau helpu pawb i greu llai o garbon i’n helpu wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi sy’n gyfrifol am Gymorth i Fusnesau: “Mi fydd hwn yn ddigwyddiad gwerth chweil a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau wneud awgrymiadau, rhoi sylw i unrhyw broblemau a rhannu eu syniadau. Rydyn ni’n annog cymaint o fusnesau lleol â phosib i ddod ar 17 Gorffennaf.”

Cyn ichi ddod, dyma her ichi: ewch i Traveline Cymru a chynllunio eich taith arferol rhwng eich cartref a’r gwaith gan ddefnyddio dulliau mwy llesol a/neu gynaliadwy neu ryw fath gwahanol o gludiant, wedyn gallwch rannu’r hyn a welwch chi gyda phawb yn y digwyddiad.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gyfrannu at ddyfodol teithio llesol a chynaliadwy o gwmpas y stad ddiwydiannol a’r cyffiniau. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Mae prosiect Go Green 4 Nature o fudd i gymunedau ar draws Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam
Erthygl nesaf Tourism Cael dweud eich dweud ar y diweddariadau arfaethedig i drefniadau traffig yng nghanol dinas Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English