Erthygl Gwadd – Caffi Trwsio Wrecsam
Efallai na fyddwch wedi clywed am gaffis trwsio o’r blaen, ond mae’r syniad yn syml: dewch â’ch eitem sydd wedi torri neu ei difrodi a bydd gwirfoddolwyr medrus yn ceisio ei thrwsio, am ddim.
Gyda chefnogaeth gan Gaffi Trwsio Cymru, sefydlwyd Caffi Trwsio Wrecsam ym Mehefin 2023 ac mae fel arfer ar agor ar ddydd Sadwrn olaf bob mis. Fe’i cynhelir yn yr ‘Yellow and Blue Hub’ (yn Dôl yr Eryrod) a gallwch fwynhau rhywbeth i’w fwyta a’i yfed cyn neu ar ôl i chi gael trwsio eich eitem.
Beth allaf ddod gyda mi?
Mae eitemau sydd fel arfer yn cael eu trwsio yn cynnwys:
- beiciau (cynnal a chadw sylfaenol)
- offer trydanol
- teganau
- dillad
- addurniadau
- eitemau pren/dodrefn
Bydd gwirfoddolwyr yn edrych ar y rhan fwyaf o bethau, heblaw microdonau gan eu bod yn rhy beryglus.
Arbed arian a helpu’r amgylchedd
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Yn ogystal â dod â phobl ynghyd, mae caffis trwsio yn anelu i’ch helpu i gadw’r eitemau rydych eisoes yn eu perchen am fwy o amser.”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae defnyddio’r Caffi Trwsio yn golygu y gallwch osgoi taflu rhywbeth i dirlenwi a gorfod prynu rhywbeth newydd; a fyddai hefyd yn cymryd ynni i’w wneud.
Mae pawb ar eu hennill!
Cofiwch fod y gwaith trwsio am ddim – er mae bob amser croeso i chi roi rhodd fechan i helpu i gefnogi digwyddiadau’r dyfodol.
Efallai bod gennych eitem a oedd wir yn ddefnyddiol cyn iddi dorri, neu hoff grys sydd â thwll ynddo, a byddai’n bechod eu taflu.
Neu, efallai eich bod yn berchen ar wrthrych o werth sentimental megis tedi sydd wedi rhwygo.
Yn syml, os oes gennych unrhyw beth rydych eisiau ei gadw ond nid oes gennych y cyfarpar neu’r wybodaeth am sut i’w drwsio yna dewch ag o i Gaffi Trwsio Wrecsam i weld os ydynt yn gallu helpu.
Pa mor hir a gymerir i drwsio?
Os nad oes llawer o waith yna bydd y gwirfoddolwyr bob amser yn ceisio ei drwsio wrth i chi eistedd gyda nhw.
Weithiau, efallai y bydd eich eitem angen mwy o amser, neu offer arbenigol nad yw ar gael ar y diwrnod. Os mai dyma’r achos, efallai y bydd y sawl sy’n trwsio yn rhoi’r eitem yn ôl i chi ac yn awgrymu eich bod yn dod hi’n ôl i’r caffi trwsio nesaf i’w orffen, os ydynt yn teimlo y gallant ei thrwsio (neu i ddigwyddiad mewn lleoliad arall sy’n gynt).
Os yw eich eitem ychydig yn anodd ei thrwsio, mae’n syniad da cysylltu o flaen llawn er mwyn i’r caffi trwsio sicrhau fod gwirfoddolwr sydd â’r offer cywir ar gael i drwsio eich eitem.
A allaf i helpu?
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn fedrus am drwsio rhywbeth – neu, os nad ydych yn gallu trwsio ond gallwch helpu gyda’r gwaith trefnu/gweinyddol yna gallwch lenwi’r ffurflen wirfoddoli. Mae bob amser croeso i fwy o wirfoddolwyr! Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Chaffi Trwsio Wrecsam ar e-bost ar repaircafewrecsam@yahoo.com neu dewch i’r digwyddiad nesaf i weld sut mae’n gweithio.
Pryd mae’r digwyddiad nesaf?
Mae’r caffi trwsio nesaf yn digwydd ddydd Sadwrn, 27 Ebrill, 2024 o 1-3pm yn yr ‘Yellow and Blue Hub’, Dôl yr Eryrod.
Gallwch hefyd weld dyddiadau digwyddiadau eraill ar wefan Caffi Trwsio Cymru, neu dudalen Facebook Caffi Trwsio Wrecsam y gallwch hefyd ei ddilyn i gael diweddariadau.
Dywedodd Jackie, Arweinydd Caffi Trwsio Wrecsam “Ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin bydd Caffi Trwsio Wrecsam yn ddwy oed a hoffem ddiolch yn fawr i Pete Humphreys, o gaffi cymunedol Yellow and Blue, am ganiatáu i ni ddefnyddio’r lle, bob mis dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynnal ein digwyddiadau. Hoffwn hefyd ddiolch i’r gwirfoddolwyr hyfryd – rhai blaenorol a phresennol – am rannu eu hamser a’u sgiliau i’w wneud yn gymaint o lwyddiant. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi llwyddo i achub tua 199 o eitemau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac wedi atal nifer o bobl rhag gorfod prynu rhai newydd. Mae hynny’n gorfod bod yn beth da.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch