Rydym yn rhannu newyddion da gyda chi heddiw wrth i ni gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau bron i £750,000 o arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau gwella i deithio a phrosiectau diogelwch ffyrdd dros y 12 mis nesaf.
Bydd dros £200,000 yn mynd tuag at ddatblygu mwy o lwybrau cerdded a beicio ar draws y fwrdeistref sirol a elwir yn Lwybrau Teithio Llesol. Bydd £243,500 pellach yn cael ei wario ar orsaf bws Wrecsam i wella’r ardal i ymwelwyr i ganol tref Wrecsam ac yn ôl.
Mae prosiectau i wella diogelwch ffyrdd mewn ac o amgylch ysgolion a chynlluniau diogelwch ffordd eraill hefyd wedi cael y golau gwyrdd a bydd dros £158,000 yn cael ei wario ar lwybrau 20mya yn ysgol Sant Pedr yn yr Orsedd ac ardal Cefn Mawr.
Mae cynlluniau diogelwch ffordd eraill yn cynnws gwella’r Gyffordd yn Penley, cynllun Pass Plus Cymru, hyfforddiant cerddwyr ar gyfer plant, cynllun datblygu gyrwyr hŷn, bike safe a hyfforddiant beicio safonau cenedlaethol hefyd wedi derbyn cyllid.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn newyddion da iawn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu am sicrhau’r arian hwn a gwneud diogelwch ffordd a gwelliannau ar y ffordd ar draws ardal Wrecsam.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI