Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud am ddyfodol tai yn Wrecsam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dweud eich dweud am ddyfodol tai yn Wrecsam…
Pobl a lleY cyngor

Dweud eich dweud am ddyfodol tai yn Wrecsam…

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 18, 2018 6:05 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Housing
RHANNU

Mae mynediad at dai fforddiadwy a diogel o safon yn un o’r pethau pwysicaf a mwyaf hanfodol y gallwn ni fel Cyngor helpu i’w darparu.

Cynnwys
  • Rydym am glywed gan bawb ohonoch chi
  • Mae’n ‘hanfodol’ cael cynllun ar gyfer y dyfodol
  • Sut i ddweud eich dweud

I’n helpu i gyflawni hyn, rydym yn cynhyrchu cynllun ysgrifenedig sy’n amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gweithio gyda’n sefydliadau partner i ddarparu tai sy’n diwallu anghenion ein poblogaeth yn y ffordd orau.

Bydd ein Strategaeth Tai Lleol newydd ar gyfer 2018-2023 yn gosod gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer cyflenwi tai a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai yn y Fwrdeistref Sirol.

Bydd yn cydnabod anghenion unigol gan weithio i wella tai a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr.

DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

Rydym am glywed gan bawb ohonoch chi

Er y bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi fel dogfen gan y Cyngor, ei bwriad yw cwmpasu pob math o dai a deiliadaethau ac nid tai rhentu cymdeithasol yn unig.

I’n helpu i gynhyrchu’r cynllun, mae’n hanfodol ein bod yn casglu barn a safbwyntiau am yr hyn y credwch chi fydd y blaenoriaethau a’r nodau o ran tai yn Wrecsam dros y blynyddoedd nesaf.

Efallai’ch bod yn denant i’r cyngor neu’n berchennog ar eich cartref eich hun, neu efallai’ch bod yn byw mewn tŷ rhent preifat.

Beth bynnag fo’ch sefyllfa o ran tai, hoffem glywed gennych chi!

Rydym hefyd yn awyddus iawn i gasglu barn gan ddatblygwyr, landlordiaid a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn tai neu wasanaethau sy’n gysylltiedig â thai

Mae’n ‘hanfodol’ cael cynllun ar gyfer y dyfodol

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cyng. David Griffiths: “Mae hwn yn gyfnod arbennig o brysur i dai yn Wrecsam gyda datblygiadau newydd yn yr arfaeth a phob math o waith gwella yn cael ei wneud ar filoedd o gartrefi a chymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae’r angen am dai o safon uchel yn dal i fod yn flaenoriaeth i ni fel cyngor felly mae’n hanfodol bod gennym gynllun mewn lle a fydd yn ein helpu i ddarparu hyn mewn ffordd sy’n llenwi’r bylchau rhwng y mathau amrywiol o letyau sydd ar gael ac sy’n cydnabod anghenion a dyheadau ein poblogaeth gynyddol yn y ffordd orau.”

Sut i ddweud eich dweud

          • Cliciwch yma i lenwi ein hymgynghoriad.
          • Bydd yr ymgynghoriad yn weithredol o ddydd Llun 16 Ebrill tan ddydd Llun 28 Mai.
          • Os hoffech gael copi papur i’w llenwi, e-bostiwch ni – getinvolvedinhousing@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298993

        Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

        [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol NODWCH: Os yw’ch noson yn mynd ar chwâl, dyma le y gallwch fynd am help NODWCH: Os yw’ch noson yn mynd ar chwâl, dyma le y gallwch fynd am help
Erthygl nesaf Bus station Cais ariannol yn sicrhau bron i £750,000

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English