#Wrecsam2025
Wythnos nesaf byddwn yn darganfod os ‘da ni wedi cael ein dewis i’r rhestr fer Dinas Diwylliant y DU 2025. Da ni ddim yn gwadu fod yna gymysgedd o fod yn gyffrous ac yn nerfus yn arwain at y cyhoeddiad.
Mae wedi bod yn andros o daith hyd yn hyn felly gadewch i ni fynd trwy beth yr ydym wedi cyflawni hyd yn hyn:
Cyhoeddwyd ein cais haf diwethaf ar ôl i newidiadau yn y rheolau galluogi ardaloedd nad yw’n ddinasoedd cymryd rhan. Mae Wrecsam yn cymryd rhan fel rhanbarth sirol.
Ar yr 8fed o Hydref blwyddyn ddiwethaf cyhoeddwyd gan drefnwyr y gystadleuaeth DCMS (adran y DU dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yw Dinas Diwylliant y DU) fod Wrecsam drwodd i’r rhestr hir. Yn hwyrach yn y mis gwahoddwyd pob rhanbarth ar y rhestr hir i Coventry (daliwr fraint Dinas Diwylliant y DU ar hyn o bryd) ar ymgyrch i ddarganfod ffeithiau.
Datblygu’r brand
Ymgynullwyd tîm craidd i ddatblygu’n brand a’n strategaeth Cyfathrebu ac ymrwymiad. Ar ôl amser byr o weithio yn y cefndir, datblygwyd ein brand a gyhoeddwyd yn ein cyfarfod cyntaf deliad diddordeb yn HQ Moneypenny.
Hwn oedd ein cyfle cyntaf i rannu ein logo #Wrecsam2025 ac esbonio bod ein logo lliwgar yn cynrychioli llwch glo i gynrychioli ein gorffennol diwydiannol, ac mae’r lliwiau a ddefnyddir yn cynrychioli egni ac amrywiaeth pob un ohonom sy’n byw, gweithio a chwarae yn Wrecsam.
Mae ein logo hefyd yn cynnwys sillafiad Cymraeg Wrecsam – Rydym ni’n Gymreig, Rydym ni’n siarad Cymraeg, a byddwn yn annog defnyddio’r iaith bob amser. Amser byr ar ôl y cyfarfod cyhoeddwyd Joanna Swash CEO Moneypenny fel cadeirydd i’r grŵp llywio’r cais dinas diwylliant.
Nid yw Covid wedi diflannu
Yn mis Tachwedd dechreuwyd y cynllunio am ddigwyddiadau i hybu’n cais a fu’n mynd ymlaen yn Mis Ionawr. Yn anffodus yn yr amser pendraw o gynllunio, fu rhywogaeth Omicron covid yn ymddangos a bu rhaid tynhau rheolau covid, a bu’n golygu bod rhaid i ni ddiddymu’n cynlluniau. Roedden ni dal angen hybu’n cais, ond mewn ffordd covid saff – ar ôl ychydig o grafu pen a throadau anghywir cafwyd syniad. Yn hytrach nag ofyn i bobl dod atom ni, be am i ni fynd atyn nhw? Ond mwy am hyn yn nes ymlaen.
Roedden ni dal yn gallu mynychu rhai digwyddiadau yn cynnwys y Ffair Fictoriaid. Roedd hwn yn profi fod yn ffordd dda o hel mewnweliadau ar beth oedd pobl yn meddwl am y cais, ac roedd yn galonogol.
Cyhoeddi cyllid grantiau
Oherwydd amser prin i’r cais, y mae Cyngor Bwrdeistref Cyngor Wrecsam wedi bod yn arwain arno, ond mae’r cais i sir Wrecsam, felly roedden ni’n awyddus i gael cymaint o ymlyniad gan y gymuned a su phosib. Ar Ragfyr 21ain cyhoeddwyd grantiau i gymunedau, a sefydliadau lle y gallent ymgeisio am gyllid hyd at £1,000 i drefnu digwyddiad neu weithgaredd a fu’n hybu’n cais Dinas Diwylliant. Yn symud ymlaen sawl wythnos cawsom dros 70 o ymgeision a ddaru ni gyhoeddi dros 50 o grantiau. Mae rhai digwyddiadau yn barod wedi digwydd, ond mae yna lawer mwy i ddod. Cadwch olwg am yr #nod #Wrecsam2025 am fwy o fanylion am ddigwyddiadau su ar y gweill.
Bws Diwylliant
Syniad y tu ôl i’r bws diwylliant oedd cael y gallu i gysylltu gyda’r holl sir mewn ffordd covid saff, heb annog mudiadau mawr o bobl nag ymgynullo. Yn hytrach nag pobl yn dod i ni, awn allan at y bobl. Dros 3 diwrnod ymwelodd y 2 bws dros 60 o lefydd gyda ‘flashmobs’ yn digwydd ledled y sir. Roedd rhai o’n perfformwyr yn cynnwys Megan Lee ac :
Côr Merched Academi Delta
Pumawd Pres NEW Sinfonia
Theatr Gerddorol Coleg Cambria
Luke Gallagher
Andy Hickie
Dawnswyr Ieuenctid Academi Delta
Oherwydd cyfyngiadau covid nid oedden ni’n cael yr hawl i hysbysebu lle y bu’r bws ymlaen llaw yn hytrach nag dweud ‘cadwch olwg amdanynt.’ Ond hanner ffordd trwy’r diwrnod cyntaf cyhoeddwyd fod amodau covid yn newid felly gallant flaen hybu lleoliadau’r bws, gan adael i fwy o bobl i gymryd rhan.
Chwarae, Yr iaith Gymraeg, cefnogi’n ieuenctid a phêl droed
Fel rhan o’n cais roedden ni isio hybu Wrecsam fel prif ranbarth chwarae yn y DU. Mae gennym hanes gwych o chwarae yn Wrecsam ac mae hwn yn rhywbeth da ni isio datblygu mwy gyda’r Fenter ym Mharc Caia yn un o ganolbwyntiau i chwarae yn Wrecsam. Mae’r Fenter wedi bod yn cyfoethogi a gwella bywydau plant yn Wrecsam am ddegawdau.
Mae gennym fudiad Urdd Gobaith Cymru yn cefnogi’n cais, y mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf drwy Gymru. Dywedon nhw : “Credwn y bydd ennill teitl Dinas Diwylliant yn cael effaith aruthrol ar fywydau plant a phobl ifanc.” Bydd yn gyfle i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant i gynulleidfa ehangach drwy ddarpariaeth pobl ifanc cymunedol, chwaraeon, diwylliannol, dyngarol heddwch a phrosiectau rhyngwladol. “Bydd hefyd yn rhoi llwyfan i blant a phobl ifanc i ymhelaethu ar eu dyheadau ac arddangos pŵer eu lleisiau.”
Mae pêl droed yn chwarae rhan fawr mewn diwylliant Wrecsam, ac mae Wrecsam yn gartref i bêl droed yng Nghymru. Tydi o ddim yn dod fel sioc felly bod pêl droed yn chwarae rhan fawr yn ein cais a’n ymrwymiad. Ar Ionawr 22ain chwaraeodd enillydd aml wobr Bellevue FC yn erbyn Tîm pêl droed Heddlu Wrecsam (sefydlwyd y tîm hwn i dorri lawr muriau rhwng yr heddlu a’r gymuned). Cawsom ni wahoddiad i fod yn rhan o’r gem gymunedol hynod o arbennig hon a ddaru ni noddi’r ffrwd fyw o Maes Y Glöwr, gyda’r sylwebaeth yn cael ei gyflenwi gan orsaf radio lleol calon FM.
Yn ystod y gem rhoddwyd llythyr i’r tîm Dinas Diwylliant gan lwydd CPD Cymru Steve Williams yn cyhoeddi cefnogaeth i’n cais gan dîm pêl droed Cymru.
Mewn cefnogaeth o’n cais rhoddwyd Clwb Pêl Droed Wrecsam datganiad o gefnogaeth ar y cyd i ddadorchuddio baner maint 66m x 18m yn Cefnogi’n cais i ddod yn Ddinas Diwylliant ar ochr Kop y Cae Ras, a fu’n aros i fyny wrth iddo gael ei ddatblygu.
Ffilmiau i’n cais a chyhoeddi ein cais
Fel rhan o gyhoeddi’n cais ar yr 2il o Fawrth gwahoddwyd aelodau o’r wasg i gwrdd ag aelodau o’r gymuned a fu’n rhan o’r cais. Dewiswyd i gyhoeddi ein fideo am y tro cyntaf ar yr un diwrnod. Ddaru ‘La, We are Wrecsam’ dal llawer o sylw wrth iddo gynnwys cywaith bardd Evrah Rose ac beatbocsiwr Cymraeg enwog Mr Phormula. Gellir gwylio’r ddau fidio isod.
Evrah ac Mr Phormula
Fidio Cais – Bws Diwylliant
Y dyfodol
Bydd digwyddiadau cais Dinas Diwylliant yn mynd ymlaen trwy i ddiwedd Mis Mai, felly mae’n werth cadw golwg ar beth sy’n mynd ymlaen a chymryd rhan. Hoffwn ni fynd trwodd i’r rhestr fer, ac wedyn mynd ymlaen i ennill a dod yn Ddinas Diwylliant yn 2025. Mae yna archwaeth cymunedol i Wrecsam ennill a dod yn ddinas Diwylliant 2025, gyda’r holl fanteision sy’n dod ynghlwm gyda’r teitl.
Dywedodd Joanna Swash, Prif Weithredwr Moneypenny a Chadeirydd Grŵp Llywio cais #Wrecsam2025: “Mae ymglymiad byd busnes a’r gymuned yn eithriadol. “Mae Wrecsam wir yn le arbennig i fyw, gweithio ac ymweld, ac mae balchder y su gan bobl am y gymuned wir yn tywynnu drwodd gyda lefelau gwych o ymrwymiad wrth i ni hybu’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Lle a Phartneriaethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’n rhagorol beth sydd wedi cael ei gyflawni mewn ychydig o fisoedd byr, ac rydym yn mynd i mewn i fis nesaf yn dal ein pennau yn uchel yn falch o’n llwyddiannau. “Mae yna wir buzz i’r cais o gwmpas ein cymuned ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hwn wrth fynd ymlaen i’r rhan nesa o’r gystadleuaeth.”