Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae goroeswr canser, a wnaeth oresgyn siawns o ’16 miliwn i un’, yn annog mwy o bobl ifanc i ymladd canser y gwaed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae goroeswr canser, a wnaeth oresgyn siawns o ’16 miliwn i un’, yn annog mwy o bobl ifanc i ymladd canser y gwaed
Arall

Mae goroeswr canser, a wnaeth oresgyn siawns o ’16 miliwn i un’, yn annog mwy o bobl ifanc i ymladd canser y gwaed

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/26 at 5:05 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Laura James
RHANNU

Erthyl Gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae menyw o Aberdâr yn annog pobl ifanc 17 i 30 oed i ymuno â’r frwydr yn erbyn canser y gwaed drwy ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Fe wnaeth Laura James, 35, oresgyn lewcemia myeloid acíwt ym mis Rhagfyr 2012, diolch i rodd mêr esgyrn a dderbyniodd gan ddieithryn llwyr.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Gyda’r canser wedi bod dan reolaeth bellach ers deng mlynedd, dathlodd Laura yn ddiweddar drwy ganu’r gloch mewn prynhawn emosiynol yng Nghanolfan Ganser Felindre, lle dechreuodd ei thriniaeth yn wreiddiol.

Ar ôl pedair rownd o driniaeth cemotherapi, fe wnaeth canser Laura ddod yn ôl, a chafodd wybod mai ei hunig gyfle i oroesi oedd derbyn trawsblaniad mêr esgyrn. Yn anffodus, doedd neb yn ei theulu yn cydweddu â hi. Unig obaith Laura oedd gofyn am gymorth gan ddieithryn llwyr.

Cafodd chwiliad byd-eang ei lansio ar frys i ddod o hyd i roddwr addas, a phedwar mis a hanner yn ddiweddarach, cafwyd hyd i rywun oedd yn cydweddu’n berffaith â hi ddeng mil o filltiroedd i ffwrdd yn Awstralia.

Dywedodd Laura: “Dwi’n gwybod pa mor lwcus ydw i, i ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu â mi. Dywedodd y meddygon ar y pryd wrtha’i bod y siawns o ddod o hyd i rywun oedd yn cydweddu yn 16 miliwn i un.

“Profais gymaint o emosiynau, o wybod bod dieithryn anhunanol yn fodlon achub fy mywyd – llawenydd, gobaith, pryder; y cyfan. Dyna pam dwi wastad wedi bod yn awyddus i rannu fy stori, er ei fod yn anodd gwneud hynny; rydw i eisiau helpu cymaint o bobl â phosib.”

Mae canserau gwaed yn atal mêr esgyrn rhag gweithio’n gywir, ac i’r cleifion hyn, y gobaith gorau o wella yw derbyn cynnyrch gwaed ac, yn y pen draw, trawsblaniad mêr esgyrn. Mae clinigwyr yn chwilio drwy gofrestri ar draws y byd bob dydd am roddwyr mêr esgyrn addas ar gyfer eu cleifion canser y gwaed.

Aeth Laura ymlaen i ddweud: “Roedd fy mywyd yn llawn trallwysiadau gwaed a phlatennau, gwelyau ysbyty, bwyd ysbyty, dosau uchel o gemotherapi, a theimlo’n unig drwy’r amser.”

“Nid dyma’r bywyd roeddwn i’n ei ddisgwyl, ond roeddwn i’n benderfynol o fynd drwyddo gydag agwedd bositif a nerth, nes i fy rhoddwr gael ei ddarganfod.”

Er iddi fod wedi gwella’n llwyr, mae taith Laura’n parhau. Yn ddiweddar, ymunodd Laura â Gwasanaeth Gwaed Cymru mewn rôl lle mae ei phrofiad uniongyrchol o dderbyn gwaed, platennau a mêr esgyrn yn ei helpu nawr i alw ar fwy o bobl i ystyried rhoi gwaed.

“Fel goroeswr canser, alla i ddim rhoi gwaed fy hun, a dyna pam dwi’n rhoi fy mywyd i achub eraill.” Ychwanegodd Laura.

Bob blwyddyn, mae dros 50,000 o gleifion ar draws y byd yn gobeithio dod o hyd i rywun addas y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â nhw gan roddwr sydd ddim yn perthyn. Mae hyn yn ystadegyn y mae Laura, gyda chymorth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, yn gobeithio ei newid.

Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru:

“I glaf fel Laura, mae dod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar y Gofrestr yn amhrisiadwy, ond nid yw pawb mor lwcus â Laura. Mae angen mwy o wirfoddolwyr rhwng 17 a 30 oed i gofrestru ar gyfer y Gofrestr.

“Mae cofrestru yn haws nag erioed. Gallwch ofyn am becyn swab heb adael eich cartref drwy wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru, neu drefnu apwyntiad i roi gwaed a holi am ymuno pan fyddwch yn rhoi gwaed.”

Cafodd Laura ei thrawsblaniad mêr esgyrn yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, o dan Dr Keith Wilson, Haematolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Rhaglen Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn De Cymru.

Meddai Dr Wilson: “I lawer o gleifion sydd â chanser y gwaed, mae trawsblaniad mêr esgyrn yn cynrychioli eu hunig ffordd o oresgyn yr afiechyd. Dim ond un o bob pedwar claf fydd yn dod o hyd i rywun addas sy’n aelod o’r teulu, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o gleifion, gan gynnwys Laura, yn dibynnu ar roddion gan wirfoddolwyr sydd ddim yn perthyn ar gofrestri ar draws y byd.

“Fel ymgynghorydd trawsblaniadau, mae’n galonogol iawn dweud wrth ein cleifion ein bod ni wedi ‘dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw!’  Mae Laura yn brawf byw o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy rodd anhunanol gan bobl eraill. Dwi wrth fy modd bod Laura bellach yn annog pobl eraill i ymuno â’r Gofrestr. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd ei phenderfyniad a’i brwdfrydedd yn annog llawer mwy o bobl i fod yn achubwyr bywyd.”

I gloi, meddai Laura: “Mae ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru wir yn rhodd achub bywyd.

“Rydym eisiau i fwy o bobl siarad am roi mêr esgyrn a’i effaith ar bobl mewn angen. Felly, beth bynnag yw eich hoedran, ceisiwch annog y sgwrs honno gyda phobl ifanc rhwng 17 a 30 oed.”

Os ydych chi rhwng 17 a 30 oed, ewch i welshblood.org.uk i ddechrau ar eich taith yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi eisiaugwarchod pob mercha geneth rhag caeleu cam-drin? Ydych chi eisiaugwarchod pob mercha geneth rhag caeleu cam-drin?
Erthygl nesaf Pontcysyllte aqueduct Cynllunio ar gyfer y dyfodol – Cynllun y Cyngor 2023-2028

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor Medi 15, 2025
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Driving
Arall

Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya

Medi 3, 2025
Mobile phone
Arall

Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul

Medi 1, 2025
Hedgehog
Arall

Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?

Awst 19, 2025
Dog
Arall

Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English