Gan fod yr haf bron â chyrraedd mae ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi llunio llyfryn sydd yn llawn o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol.
“Rhesymol neu’n rhad ac am ddim”
Mae yna ddigonedd yn digwydd ar draws y fwrdeistref, o’r hen ffefrynnau fel nofio a diwrnod chwarae (7 Awst), i’r clwb ffilmiau i’r teulu yn Nhŷ Pawb, chwaraeon a gemau neu adeiladu gwestai i bryfaid. Cynhelir y digwyddiadau yn ein parciau gwledig, Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol, Tŷ Pawb, Llyfrgelloedd Wrecsam, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yng nghanol y dref.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn gwneud gwaith gwych yn creu’r llyfryn yma, ac fel rhiant fy hun, dwi’n gwybod pa mor ddefnyddiol ydi o. Mae’n ganllaw defnyddiol iawn i rieni a gofalwyr sydd yn gorfod diddanu eu plant dros wyliau’r haf”.
“Mae hefyd gweithgareddau am ddim gan gynnwys llawer yn ein parciau gwledig sydd bob amser yn werth i chi ymweld â nhw.”
Rydym yn siŵr y byddwch yn gallu dod o hyd i rywbeth bob wythnos sydd naill ai’n rhesymol iawn neu am ddim ac yn addas ar gyfer pob oedran.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi’i leoli yn Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd Wrecsam ac maent ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim i rieni a gofalwyr plant 0-19 mlwydd oed a gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda theuluoedd. Maent ar agor yng Ngalw Wrecsam o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:30am-2:30pm ac mae ganddynt lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd. Galwch heibio neu tarwch olwg ar eu gwefan yma.
Os hoffech chi gael eich copi eich hun, anfonwch e-bost at fis@wrexham.gov.uk a byddant yn e-bostio copi atoch chi am ddim neu gallwch lawrlwytho eich copi yma.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN