Mae Gŵyl Stryd boblogaidd Wrecsam yn dychwelyd ddydd Sadwrn ac mae yna ddigon i’w gynnig i annog pobl o bob oed i ymweld â chanol y dref.
Rydym yn siŵr na fyddwch wedi eich siomi gyda’r adloniant byw sy’n cynnwys dawnsio, canu a band pres. Bydd yna reidiau ar fulod a reidiau ffair i’r rhai bach a chyfle i fynd ar ben tŵr yr Eglwys ar gyfer mwy o antur.
Bydd yna amrywiaeth o stondinau crefft a bwyd a gweithgareddau i’r teulu gan gynnwys planetariwm ac arddangosfa gan gwmni rhith-wirionedd Vorteka yn yr adeilad Techniquest newydd yn hen adeilad T J Hughes.
Ychwanegiad newydd arall i’r Ŵyl Stryd yw Tŷ Pawb, y cyfleuster marchnadoedd a chelf sydd newydd agor fydd yn croesawu ymwelwyr i’w harddangosfeydd celf, allfa bwyd a diod ac amrywiaeth o stondinau marchnad.
Bydd yna hefyd ddigon o gyfle i ymweld â storfeydd canol y dref a dwy farchnad Fictoraidd arall.
Mae’r hwyl yn dechrau am 10.00am ac mae trefnwyr yn edrych ymlaen at weld wynebau newydd yn cefnogi canol y dref ac yn ymuno yn yr hwyl.
Bydd y Gwyliau Stryd yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn olaf y mis hyd at fis Hydref.
Mae’r Ŵyl Stryd yn ymdrech bartneriaeth rhwng CIC Grŵp Busnes Wrecsam, Achubwyr Wrecsam a Wrexham Matters, nifer o fusnesau a chefnogwyr lleol.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI