Mae staff addysgu yng Nghanolfan Blynyddoedd Cynnar Wrecsam wedi cymryd rhan ym mhrosiect “Bywyd Lleol yn ystod y Cyfyngiad ar Symud” ar ôl i Amgueddfa sylwi ar eu fideos cerddoriaeth hwyliog i blant a rhieni a gafodd eu rhannu ar dudalen yr ysgol ar Instagram yn ystod y cyfyngiadau ar symud yn sgil Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Dros yr wythnosau diwethaf, mae staff wedi cael eu ffilmio yn perfformio amrywiaeth o ganeuon er mwyn diddanu’r plant ac i gefnogi eu dysgu. Mae’r fideos yn helpu â chysyniadau megis siapiau, rhifau a lliwiau. Mae’r adborth gan rieni wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dywedodd Jade, un o’r rhieni:
“Mae’r fideos wedi bod yn help mawr i fy mab, mae’n eu gwylio nhw i gyd. Pan fyddwn ni’n gyrru heibio’r ysgol mae o’n cyffroi ac yn pwyntio at yr ysgol ac yn dweud eu fod eisiau mynd i mewn. Pan fyddwn ni’n cyrraedd adref, rydym ni’n chwarae’r fideos ac mae o’n eu gwylio gan ddechrau gwenu ac yn galw ar ei frawd i ddod i’w gwylio gydag o. Mae’r fideos yn dueddol o roi sicrwydd iddo fod yr ysgol, yr athrawon a’i ffrindiau dal yno. Mae o wrth ei fodd gyda’r caneuon cyfarwydd ac mae o’n ceisio cyd-ganu. Mae o wir yn mwynhau’r fideos’.
Dywedodd Jonathon Gammond o Amgueddfa Wrecsam – “Fe wnaethom ni gysylltu â Chanolfan Blynyddoedd Cynnar Wrecsam fel rhan o brosiect Bywyd Lleol yn ystod y Cyfyngiad ar Symud, a’r nod yw cofnodi a chasglu rhywfaint o brofiadau yn Wrecsam ers y cyhoeddwyd y cyfyngiadau ar symud ar 23 Mawrth er mwyn mynd i’r afael â’r Coronafeirws”.
Bydd yr ysgol yn parhau i rannu fideos newydd yn Gymraeg a Saesneg hyd nes y bydd yr ysgol yn ail-agor i’r holl blant. Mae’r staff wedi mwynhau gweithio’n agos fel tîm yn ystod y cyfnod anodd yma ac maent wedi cael hwyl yn creu’r fideos, tra’n cadw pellter cymdeithasol yn amlwg!
Fe allwch wylio’r fideos ar @wrexhameycentre
Dyma ragflas bychan:
Mae Canolfan Blynyddoedd Cynnar Wrecsam yn ysgol awdurdod lleol ar gyfer plant rhwng 3 – 5 mlwydd oed. Mae’n ysgol brif ffrwd gyda darpariaeth ag adnoddau i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19