Clwb Cylch

Os ydych chi’n ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn yna fe allai hyn fod o ddiddordeb i chi.

Mae’r Clwb Cylch yn cynnal sesiynau ar-lein gydag arweinwyr Cylch Meithrin cymwys er mwyn dod â’r Gymraeg i’r cartref. Maent yn dechrau ddydd Llun, 1 Mehefin a gellir eu gweld ddydd Llun i ddydd Gwener am 10am.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gallwch wylio gyda nhw yn defnyddio Facebook a Twitter @mudiadmeithrin a gallwch hefyd ddefnyddio #CymraegAdre

Mae’n ffordd wych o ddod â sesiwn llawn hwyl i’ch cartref. Bydd y sesiynau yn para am 20 munud ac maent wedi cael eu dylunio ar gyfer plant meithrin a’u rhieni. Byddant yn arbennig o ddefnyddiol i’r plant hynny nad ydynt o aelwydydd Cymraeg eu hiaith.

Bydd gan bob sesiwn thema wahanol, felly cofiwch fynd i gael golwg bob diwrnod fel nad ydych yn colli allan.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19