Mae Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr smart, newydd Wrecsam yn awr ar agor!
Lansiodd y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr – sydd wedi’i lleoli ar Stryt Caer, wrth ymyl Tŷ Pawb – ar ddiwedd mis Awst, ac mae ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 10am a 4pm.
Gyda sylw’r byd ar Wrecsam ar hyn o bryd (diolch Rob a Ryan) a digwyddiadau’n cael eu cynnal yng nghanol y ddinas bob dydd Sadwrn yn ystod mis Medi, mae’n teimlo fel yr amser perffaith i’w agor.
Bydd y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr yn dangos popeth sy’n wych am y fwrdeistref sirol, ac yn darparu pob math o wybodaeth ddefnyddiol am bethau i’w gwneud a llefydd i fynd.
Beth am alw heibio i fwrw golwg?
Cynulleidfa fyd-eang
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Bydd y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr yn adnodd arbennig i breswylwyr ac ymwelwyr, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn i agor y cyfleuster.
“Rydym yn dal yn y broses o recriwtio aelodau allweddol o staff, ond mae gweithwyr eraill yn camu i fyny ac yn rheoli’r ganolfan yn y cyfamser, sy’n wych.
“Mae’r gyfres ddogfen ‘Welcome to Wrexham’ yn denu cynulleidfa fyd-eang, felly mae mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’r lle. Mae yna gyffro go iawn am Wrecsam ar hyn o bryd – gartref a thramor.
“A gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal bob dydd Sadwrn ym mis Medi i helpu i ddathlu’r fwrdeistref sirol, mae’n teimlo fel adeg dda i agor y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr.”
Cyfle am swydd
Cymhorthydd Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr
GWNEWCH GAIS NAWR