Yn dilyn yr Ŵyl Fwyd lwyddiannus mae digwyddiad arall mawr yn dod i ganol y dref ddydd Sadwrn.
Yn ystod Canu ar y Strydoedd bydd dros 25 o gorau a mwy na 1000 o berfformwyr yn canu mewn amrywiol leoliadau ar draws y dref rhwng 11am a 4pm. Bydd rhywbeth ar gyfer pobl o bob oed a bydd corau’n perfformio hyd yn oed.
Byddant yn canu yn Sgwâr y Frenhines, Tŷ Pawb, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt Yr Arglwydd, Dôl Yr Eryrod ac Argyle Arch. Bydd cyd ganu am 12.00pm pan fydd yr holl gorau yn dod at ei gilydd ar Sgwâr y Frenhines ar gyfer perfformiad.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae corau’n cynnwys Fireflies, Côr Meibion y Fron, Côr Meibion Brymbo, Cantorion Rhos, Stiwdio Opera Gogledd Cymru, Nightingales, Kaboodle, Plant ac Oedolion Bitsesize, Ysgol Bodhyfryd, Côr Clwyd, Dragon Song, Tenovus, Caldy Valley Singers, Côr Ieuenctid Sir Wrecsam, Wrexham Singing Hands, Victoria School, Wrexham Rock 2, Salvation Army Songsters, Venus Voices, Wrexham Rock 3, Dee Sign, Derwen on Tour, Côr Draw, Côr Cymunedol Wrecsam, Swagg Cancer Support Choir a Mountain Harmony.
“Rhywbeth i bawb”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae rhywbeth i bawb yn y digwyddiad hwn ac rwy’n siŵr y bydd y digwyddiad yr un mor llwyddiannus â’r blynyddoedd blaenorol. Mae’r trefnwyr wedi gwneud gwaith da a gweithio’n galed a dylid eu llongyfarch am hynny. Gobeithiaf y bydd pawb yn cymryd yr amser i ddod i gefnogi’r diwrnod, sy’n argoeli i fod yn wych.”
Gallwch edrych pa gorau fydd yn canu ac yn lle yma
Trefnir y digwyddiad gan yr AS lleol, Ian Lucas a Phrifysgol Glyndŵr, ar y cyd a John Jones Quality Acoustics, Gwirfoddolwyr Côr Cymunedol Wrecsam, Eglwys Gateway a Grŵp Busnes CIC Wrecsam. Caiff y diwrnod ei noddi gan Wockhardt, Wrexham Crime Link, Hays Travel ac Eglwys Gateway.
Gallwch weld eu tudalen Facebook yma
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION