Gallwch chi gael hyd at £7,500 tuag at gost boeler neu system wresogi newydd sy’n fwy effeithlon a charbon isel.
Mae’r Cynllun Uwchraddio Boeleri (CUB) yn cefnogi datgarboneiddio cartrefi, ac adeiladau annomestig bach a chanolig yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu grantiau ymlaen llaw o hyd at £7,500 i annog perchnogion eiddo i ddisodli systemau gwresogi tanwydd ffosil presennol gyda systemau amgen carbon isel.
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, mae grantiau ar gyfer pympiau gwres o’r aer neu’r ddaear, neu foeler biomas.
Nod y cynllun hwn yw cymell a chynyddu’r defnydd o systemau gwresogi carbon isel gan hefyd gefnogi’r diwydiant cynyddol hwn, gan greu swyddi a lleihau costau gosod.
I wneud cais am y grant, bydd angen i chi ddewis gosodwr sydd wedi’i ardystio gan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (CAM) (sefydliad safonau i sicrhau ansawdd y gwaith), a fydd wedyn yn gwneud cais am y grant ar eich rhan ac yn didynnu gwerth y grant o’ch anfoneb.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Os ydych chi’n ystyried newid eich system wresogi bresennol sy’n cael ei phweru gan danwydd ffosil, byddwn yn eich annog i edrych ar yr opsiynau carbon isel hyn a manteisio ar y grantiau hyn. Mewn cartref sydd wedi’i inswleiddio’n dda, ar y cyd â systemau cynhyrchu ynni solar neu ynni gwyrdd arall, gallwch adennill y gost o osod dros gyfnod cymharol fyr a lleihau allyriadau carbon. Peidiwch â phoeni os ydych chi eisoes wedi cael cyllid ar wahân ar gyfer gwaith uwchraddio effeithlonrwydd ynni fel inswleiddio, drysau neu ffenestri; gallwch wneud cais am y grant hwn o hyd.”
Mae’r meini prawf llawn, y rhestr o osodwyr ardystiedig, y meini prawf cymhwysedd a mwy o fanylion am y broses ymgeisio ar gael ar dudalen y Cynllun Uwchraddio Boeleri ar wefan Llywodraeth y DU.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.


