Rydym yn annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir fel rhan o ymgyrch genedlaethol newydd sbwriel ochr ffyrdd gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Gyda mwy o gerbydau ar ein ffyrdd nag erioed o’r blaen ac arferion bwyta prydau cyflym yn dod yn fwy poblogaidd, mae sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yn broblem gynyddol yn Wrecsam a ledled Cymru.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae’n achosi niwed i’n hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Mae’n difetha’r golygfeydd hardd i bobl leol ac ymwelwyr, ac mae hefyd yn anodd, yn beryglus ac yn ddrud i’w glirio.
Mae ymchwil yn dangos bod 78% o bobl sy’n taflu sbwriel o’u cerbyd yn teimlo’n euog. Mae’r ymgyrch newydd yn annog gyrwyr i gael siwrnai heb unrhyw edifeirwch ac i ‘fynd â’u sbwriel adref’.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei rhedeg fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu ac i ofalu am yr amgylchedd.
Wrth i ni ddynesu at fisoedd prysur yr haf a gyrwyr yn mynd i’n parciau, traethau ac ardaloedd twristaidd prysur, byddwch yn sylwi ar lawer o hysbysebion yn annog pawb i fynd a’u sbwriel adref.
Mae Caru Cymru wedi cael cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH