Mae tymereddau eithriadol o uchel wedi’u rhagweld ar gyfer dydd Gwener (Gorffennaf 11), felly byddwn yn dechrau ein casgliadau biniau’n gynnar i helpu ein criwiau i osgoi rhan boethaf y dydd.
Os yw eich bin neu ailgylchu i fod i gael ei gasglu ar ddydd Gwener, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi popeth allan yn barod i’w gasglu erbyn 6am fore Gwener.
Diolch.