Rydym wedi ei ddweud o’r blaen – mae gofalwyr yn gwneud llawer o waith caled, llawer ohono ddim yn cael ei gydnabod.
Ac rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i’w cefnogi.
Efallai eich bod wedi clywed am rai o’r newidiadau i ddod i’r gwasanaeth cefnogi a ddarperir i ofalwyr yn Wrecsam.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Rydym yn dechrau gwasanaeth gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a seibiant newydd i ofalwyr.
Rydym wedi newid o’r darparwyr blaenorol, Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam, Hafal a Crossroads i NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru).
Ni fydd yna newidiadau mawr – a gall gofalwyr barhau i ddisgwyl yr un safon uchel o wasanaeth maent yn ei dderbyn gan Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam, Hafal a Crossroads.
Mae’r darparwyr presennol wedi ysgrifennu at yr holl ofalwyr cofrestredig i’w hysbysu beth sy’n digwydd – nid ydym eisiau gadael unrhyw un yn y tywyllwch.
Pwy ydy NEWCIS?
Roedd NEWCIS yn darparu’r gwasanaeth gwybodaeth i ofalwyr yn Wrecsam tan 2011.
Mae ganddynt hanes blaenorol cryf o ddarparu cefnogaeth i ofalwyr gyda’n cymdogion yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych – ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto.
Rwy’n ofalwr – beth ydw i angen ei wneud?
Os ydych wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam, Hafal a/neu Crossroads, bydd NEWCIS yn cysylltu â chi yn ystod y misoedd nesaf—os ydych yn hapus i rannu eich manylion gyda nhw.
Os ydych yn derbyn seibiant i ofalwyr gan Crossroads, bydd NEWCIS yn trafod dewisiadau egwyl seibiant ac anghenion cefnogi gyda chi ac yn gweithio gyda chi i sicrhau bod eich anghenion asesedig yn parhau i gael eu diwallu o dan y gwasanaeth newydd.
Os ydych wedi bod yn derbyn gwasanaeth gan Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam a/neu Hafal a’ch bod yn cytuno i rannu eich manylion gyda NEWCIS, byddant yn sicrhau eich bod yn derbyn eu newyddlen fydd yn rhoi manylion pellach o’r hyn y byddwch angen ei wybod o bosibl.
Os nad ydych wedi cofrestru fel gofalwr eto, ewch i www.newcis.org.uk.
“Bydd safon o wasanaeth hyderus yn parhau’n uchel”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Wrecsam: “Rwy’n hyderus y bydd safon y gwasanaeth o dan y darparwyr blaenorol yn parhau o dan y trefniadau newydd gyda NEWCIS.
“Mae’r gwaith caled a wneir gan ofalwyr yn bwysig iawn, felly rydym eisiau bod yn hollol siŵr eu bod yn derbyn y gefnogaeth maent ei hangen.”
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN