Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dechrau teimlo straen gofalu? Rhowch wybod i ni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dechrau teimlo straen gofalu? Rhowch wybod i ni
Pobl a lleY cyngor

Dechrau teimlo straen gofalu? Rhowch wybod i ni

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 11, 2018 2:28 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Dechrau teimlo straen gofalu? Rhowch wybod i ni
RHANNU

Rydym i gyd yn gwybod am y gwaith caled y mae gofalwyr yn ei wneud – yn wirfoddol ac yn broffesiynol.

Cynnwys
  • Gadewch i ni eich cynorthwyo.  
  • Asesiad o Anghenion Gofalwyr
  • “Mae mwy nag un o bob deg yn ofalwyr di-dâl’.

Er mwyn cydnabod eu hymdrechion, ac i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr, bydd Wythnos Gofalwyr yn cael ei chynnal o ddydd Llun, Mehefin 11 i ddydd Gwener, Mehefin 15 – ac rydym yn cymryd rhan.

Un peth yr ydym wirioneddol eisiau ei wneud yn ystod yr Wythnos Gofalwyr hon yw cysylltu â’r bobl hynny sy’n rhoi llawr iawn o ofal ond er hynny ddim yn meddwl amdanyn  nhw eu hunain fel gofalwyr – ac sydd o bosibl yn dechrau teimlo dan straen oherwydd pwysau’r rôl ofalu.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Bydd gofalwyr yn aml yn teimlo dan straen, ac oherwydd eu gwaith caled a’r sylw maen nhw’n ei roi i sicrhau lles rhywun arall, maen nhw weithiau’n anghofio gofalu amdanyn nhw eu hunain.

A gall hynny arwain at bwynt sydd ddim yn llesol iddyn nhw na’r sawl sydd dan eu gofal.

Os ydych chi’n  gofalu am rywun ac yn teimlo fod pethau’n mynd yn anodd, rydym eisiau  eich helpu chi.

Gadewch i ni eich cynorthwyo.  

Rydym bob amser eisiau helpu pobl mor gynnar â phosibl, a’u helpu  nhw i aros yn annibynnol cyn hired a phosibl.

A rhan o hynny yw helpu gofalwyr.

Rydym eisiau gallu rhoi’r cymorth y mae arnynt ei angen ac yn hytrach na’u bod yn dechrau teimlo dan bwysau mawr, gall ein hadran Gofal Cymdeithasol Oedolion gamu i mewn a rhoi help llaw.

Ac yn yr hirdymor, gall hynny helpu rhywun i aros yn eu cartref a chadw eu hannibyniaeth, yn hytrach na gorfod troi at drefniadau gofal mwy ffurfiol.

Asesiad o Anghenion Gofalwyr

Gyda hynny mewn golwg, rydym yn gofyn i ofalwyr sydd o bosibl yn teimlo dan bwysau – neu sy’n meddwl y gallai hynny ddigwydd yn fuan – i gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofalwyr.

Mae’r asesiadau hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar lefel y gofal y bydd y fath bobl yn ei roi ac a oes unrhyw gefnogaeth y gallwn  ni ei rhoi iddyn nhw.

Os ydych yn teimlo eich bod yn darparu’r lefel o ofal a nodir uchod, beth am gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofalwyr?

Wedi’r cyfan, does dim gwell amser i wneud hynny nag yn ystod Wythnos Gofalwyr!

Am ragor o wybodaeth am asesiadau o anghenion gofalwyr, cysylltwch â’r adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar (01978) 318812

“Mae mwy nag un o bob deg yn ofalwyr di-dâl’.

Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae gofalwyr yn gwneud gwaith anhygoel ac yn aml iawn dydyn nhw ddim hyn yn oed yn ystyried eu hunain yn ofalwyr.

“Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae dros 15,000 o bobl – tua 11 y cant o boblogaeth gyfan Wrecsam – yn dweud eu bod yn rhoi gofal di-dâl, sydd gyfwerth ag un o bob deg o holl boblogaeth Wrecsam.

“Ac maen nhw’n teimlo y gallai eu lles fod yn dioddef oherwydd eu bod yn defnyddio eu hegni i gyd yn gofalu, ac rydym eisiau gallu eu helpu nhw.

“Os oes unrhyw un yn teimlo eu bod nhw yn y sefyllfa honno, rwy’n eu hannog i gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofalwyr.

“Hyd yn oed os yw hynny ddim ond am ychydig oriau’r wythnos, bydd hynny’n haen hollbwysig o ofal a fydd yn cadw rhywun yn annibynnol, ac rydym eisiau cadw’r haen honno’n gadarn’.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Allech chi redeg y caffi hwn? Allech chi redeg y caffi hwn?
Erthygl nesaf dewch i fwynhau cyngerdd am ddim... dewch i fwynhau cyngerdd am ddim…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English