“O’r cyswllt cyntaf rydw i wedi cael cefnogaeth lawn gan y tîm maethu yn Wrecsam.” Alison, Gofalwr Maeth gyda Chyngor Wrecsam
Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn ofalwr maeth?
Wyddoch chi ein bod yn cynnig llawer o gefnogaeth i holl ofalwyr maeth Cyngor Wrecsam? Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
- Ymweliadau rheolaidd
- Cyngor a chyfarwyddyd gan weithiwr cefnogi goruchwyliol
- Cefnogaeth gan ofalwyr maeth eraill
- Newyddlenni rheolaidd a grwpiau coffi cefnogol
- Hyfforddiant ac adnoddau i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth
- Cyngor a strategaethau gan weithwyr proffesiynol aml asiantaeth i helpu cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer plant a phobl ifanc
I gynorthwyo ag unrhyw bwysau ariannol, rydym hefyd yn cynnig y cymorth ariannol canlynol:
- Lwfans i dalu am y gost o ofalu am y plentyn
- Taliad sgiliau
- Gostyngiad o 75% yn eich treth y cyngor
- Cardiau ar gyfer gofalwyr maeth i gael gostyngiadau ar nifer o weithgareddau
- Cynigion hamdden ar gyfer plant
- Dathliadau blynyddol ar gyfer gofalwyr maeth, plant a phobl ifanc
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae gofalwyr maeth yn creu cartrefi diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc ond, yn Wrecsam, mae arnom ni angen mwy o bobl i ddangos diddordeb.
Ydych chi erioed wedi ystyried maethu plentyn neu berson ifanc?
Os felly, hoffai Gwasanaeth Maethu Wrecsam glywed gennych chi. Maen nhw’n chwilio am ofalwyr maeth posibl sy’n ymroddedig i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’n bwysig cadw plant yn eu hardaloedd lleol er mwyn sicrhau cysondeb o ran teulu, ffrindiau ac ysgolion.
Helpwch ni i gadw plant lleol yn ddiogel yn Wrecsam drwy ddarparu cartref diogel a charedig.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â Gwasanaeth Maethu Wrecsam a gofynnwch am gael siarad â’r Swyddog Recriwtio
01978295316 neu anfonwch e-bost at:fostering@wrexham.gov.uk
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am faethu a’r broses i ddod yn ofalwr maeth ar ein gwefan:
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG