Bydd cefnogwyr yng ngêm Wrecsam y penwythnos hwn yn cael eu hannog i roi eu dwylo yn eu pocedi a chefnogi Apêl y Pabi eleni.
Bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn wynebu Altrincham ddydd Sadwrn, a bydd gwirfoddolwyr wrth ochr y cae ac yn y standiau yn casglu er budd yr achos hwn.
Mae Apêl y Pabi wedi’i threfnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe’i sefydlwyd ym 1921, yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae gwisgo pabi yn dangos cefnogaeth i’n lluoedd arfog, a defnyddir yr arian a gaiff ei godi i helpu dynion a merched sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Bydd Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yn ymuno â’r gwirfoddolwyr yn y gêm, ac mae’n edrych ymlaen at weld pobl yn cefnogi’r tîm pêl-droed a’r apêl.
Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones:
“Mae Wrecsam yn hynod o falch o’i gysylltiadau â’r lluoedd arfog, ac mae nifer o ddynion a merched o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wedi gwasanaethu a gwneud aberthau hynod dros y blynyddoedd.
“Mae Apêl y Pabi yn fenter hyfryd sy’n darparu help hanfodol i staff y gwasanaethau arfog a’u teuluoedd – yn aml pan fyddant ei angen fwyaf.
“Felly os byddwch chi yn y gêm ddydd Sadwrn a’n gweld ni’n casglu, cofiwch gyfrannu a gwisgo eich pabi gyda balchder.
“Byddwch chi’n gwneud rhywbeth gwerth chweil, a helpu Wrecsam fel cymuned i ddweud ‘diolch’ wrth y dynion a’r merched dewr sydd wedi rhoi gymaint i’n gwlad.”
Bydd yr ymgyrch genedlaethol yn lansio’n swyddogol ddydd Sul (30 Hydref), felly beth am brynu pabi a dangos eich cefnogaeth.
Caiff y lansiad ei nodi gan Feicwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a gwasanaeth byr ar Lwyn Isaf yn Wrecsam am 9.15am.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI