Gwyddom i gyd pa mor bwysig yw chwarae ar gyfer plant – yn enwedig yn yr ysgol, lle gall lleoliadau chwarae helpu plant i gymdeithasu, ymarfer corff a chymryd egwyl rhwng dysgu.
Mae Ysgol Black Lane, Pentre Broughton, wedi cael ei dewis fel un i gystadlu yng nghystadleuaeth Win a School Playground Febreeze, Terracycle a Tesco – yr unig ysgol yng Ngogledd Cymru i gyrraedd y rhestr.
Mae’r ysgol yn gwneud yn dda yn y 10 safle uchaf ymhlith ysgolion yn y gystadleuaeth, ond mae angen mwy o bleidleisiau i fod yn sicr o gyrraedd y brig erbyn pryd fydd y gystadleuaeth yn cau ar 14 Tachwedd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Os ydych chi eisiau bwrw’ch pleidlais dros yr ysgol, ewch i www.tescowinaplayground.co.uk
Dywedodd y Cyng. Beverley Parry Jones, aelod lleol Bryn Cefn: “Byddai’r plant yn Ysgol Black Lane yn elwa’n helaeth o faes chwarae newydd, ac rwy’n siŵr y bydden nhw’n ei werthfawrogi’n fawr pe gallai pobl gymryd ychydig funudau allan o’u diwrnod i bleidleisio drostynt.
“Mae cyfleusterau chwarae mor bwysig i blant, ac mae cyfle fel hyn yn un na ddylid ei fethu.
“Byddwn yn gofyn i drigolion gymryd ychydig funudau a mynd i’r wefan i bleidleisio.”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg: “Rydyn ni’n gwybod faint mae plant yn gwerthfawrogi cyfleusterau chwarae mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, a gallant fywiogi amserau egwyl trwy roi lle diogel iddynt archwilio a rhedeg o gwmpas gyda’u cyd disgyblion.
“Mae Ysgol Black Lane wedi curo cystadleuaeth ledled y wlad i gyrraedd y rhestr fer ac mae’n un o ddim ond dwy ysgol yng Nghymru i gyrraedd y safleoedd uchaf, ond bydd angen cefnogaeth y cyhoedd arnynt er mwyn cyrraedd y brig.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI