Erthygl wadd – Wrecsam sy’n Deall Dementia
Ymunwch â ni yn Erddig, safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ddydd Sul 8 Medi 2024 i gymryd rhan yn Nhaith Gerdded dros Ddementia Wrecsam.
Bydd y tîm o Wrecsam sy’n Deall Dementia yno o 10.30am i’ch croesawu chi ar y daith gerdded a byddant wrth law i gynnig gwybodaeth i chi am wasanaethau a gweithgareddau sy’n deall dementia yn Wrecsam.
Dewch i fwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd hyfryd yn Erddig – mae’r daith gerdded yn agored i bawb felly dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau. Caniateir cŵn ar y daith gerdded ond rhaid eu cadw ar dennyn mewn mannau penodol.