Mae tymor y Nadolig yn agosau, and rydym eisiau eich atgoffa o’r dyddiau parcio am ddim y gallech chi edrych ymlaen atynt yng nghanol y dref.
Mae ein tîm Digwyddiadau wedi bod yn brysur iawn yn trefnu’r digwyddiadau Nadolig blynyddol, ond maent wedi ychwanegu atyniad newydd eleni – y Pentref Nadolig, ac i sicrhau y bydd pawb yn cael gwneud y mwyaf ohono, rydym yn cynnig parcio am ddim ar gyfer y rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn. Gallwch gael golwg arnynt isod.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod yn parhau i wynebu heriau ariannol, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cefnogi ein rhaglen digwyddiadau dros gyfnod y Nadolig. Bydd cefnogi ein digwyddiadau a chynnig parcio am ddim ar ddyddiadau allweddol yn arwain at y Nadolig yn rhoi hwb i’r economi lleol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu ein masnachwyr, yn enwedig rhai annibynnol, i wneud y mwyaf o’r siopwyr ychwanegol y bydd hyn yn eu denu yma. Mae’r staff wedi gweithio’n galed i ddod â’r holl ddigwyddiadau hyn i Wrecsam a gobeithio y bydd y parcio am ddim yn chwarae rhan fawr i annog mwy o ymwelwyr iddynt.”
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Amlinellir y dyddiadau ar gyfer parcio am ddim isod:
“Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen”
Cynhelir y digwyddiad poblogaidd hwn ar Tachwedd 22 i nodi dechrau’r gweithgareddau Nadoligaidd yng Nghanol y Dref. Gellir parcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref am ddim ar ôl 4pm. Trefnir y digwyddiad hwn gan Glwb Rotari Wrecsam gyda chefnogaeth ein tîm Digwyddiadau.
“Dydd Sadwrn Busnesau Bach”
Dewch draw ar 1 Rhagfyr i gefnogi busnesau lleol ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach, digwyddiad cenedlaethol yr ydym ni yn Wrecsam wedi cymryd rhan ynddo am sawl blwyddyn bellach. Bydd parcio am ddim ar ôl 10am.
“Marchnad Fictoraidd a Siopa Gyda’r Nos”
Cynhelir y Farchnad Fictoraidd hynod boblogaidd ar 6 Rhagfyr, a bydd parcio am ddim ar ôl 4pm. Bydd y digwyddiad hwn unwaith eto’n llenwi Sgwâr y Frenhines i Eglwys San Silyn â stondinau yn gwerthu casgliad o ddanteithion ac anrhegion Nadoligaidd ynghyd ag adloniant a charwsél traddodiadol. Dyma ddigwyddiad poblogaidd iawn sy’n denu miloedd i ganol y dref drwy gydol y dydd.
Mae Rhagfyr 6 hefyd yn nodi dechrau parcio am ddim ar gyfer siopa gyda’r nos sy’n parhau ar Rhagfyr 13 a 20 pan gaiff siopa eu hannog i aros yn agored yn hwyr.
“Pentref Nadolig”
Digwyddiad newydd i siopwyr ac ymwelwyr eleni, a rhywbeth ychwanegol i’r tymor Nadoligaidd. Rydym yn trefnu gŵyl y gaeaf 3 diwrnod. Bydd gennym wybodaeth bellach am hyn yn fuan. Cynhelir y Pentref Nadolig ar Ragfyr 14, 15 ac 16 a bydd parcio am ddim ar ôl 10am.
“Wythnos siopa Nadolig”
Byddwch yn gallu parcio am ddim ar ôl 10am yn ystod y diwrnodau olaf yn arwain at y Nadolig rhwng 17 a 24 Rhagfyr. Peidiwch â methu’r cyfle i ddod o hyd i fargeinion munud olaf, a gwnewch y mwyaf o bopeth sydd i’w cynnig yng nghanol y dref.
Mae parcio am ddim ar gael ar yr amseroedd a nodir uchod ym mhob un o feysydd parcio’r cyngor yng nghanol y dref. Mae hyn yn cynnwys Tŷ Pawb. Gweler yma am y meysydd parcio eraill lle bydd parcio am ddim ar gael
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU