Wrth i bawb ohonom ddod i arfer â’r sefyllfa o ran cyfyngiadau COVID 19 a bod y plant gartref, mae’n tîm Ysgolion Iach wedi rhoi adnoddau defnyddiol rhad ac am ddim at ei gilydd er mwyn cefnogi addysgu gartref.
Tarwch lygad ar y rhain ar gyfer y sector cynradd:
Great Grub Club – Llawer o weithgareddau hwyliog sy’n ymwneud â bwyd a symud
Go Noodle – Amrywiaeth o fideos sy’n addas i blant sy’n ymwneud â symud ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae adnoddau rhad ac am ddim i ddisgyblion oedran Meithrin a Chynradd ar Twinkle. Maent yn eu cynnig am fis ac mae yna becyn ysgolion ar gau y gellir ei lawrlwytho. Mae gweithgareddau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Ar gyfer Cynradd i Uwchradd:
Hwb – Mae platfform Llywodraeth Cymru yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a gwersi am ddim o’r cyfnod sylfaen i fyny at ôl 16, yn cynnwys ADY. Mae’r pynciau yn cynnwys pob agwedd o addysg o hanes, creu ffilmiau a diogelwch ar y rhyngrwyd i weithgareddau’r Pasg. Safle sydd yn parhau i ddarparu – Gall pob plentyn yng Nghymru gael gafael ar Microsoft Office am ddim drwy’r safle yma.
S4C – adnoddau i ddisgyblion meithrin i uwchradd, heb anghofio oedolion sy’n ddysgwyr hefyd.
BBC Bitesize – amrywiaeth o adnoddau ar gyfer disgyblion cyn ysgol i rai Ôl-16.
Cyfoeth Naturiol Cymru – amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol o:
- Anifeiliaid, Cynefinoedd a Bioamrywiaeth
- Mathemateg a Rhifedd
- Iaith a Llythrennedd
- Iechyd a Lles
- Synhwyrau Naturiol
- Celfyddydau Mynegiannol
The Pod – Archwiliwch adnoddau trawsgwricwlaidd am ddim i helpu plant ddod i’r afael ag ynni, gwyddoniaeth a chynaliadwyedd. Daliwch sylw plant gyda gemau rhyngweithiol, ffilmiau gwych, pecynnau gwybodaeth ddiddorol a gweithgareddau cyffrous (4-14+oed)
Newid am Oes – Nid ryseitiau iach i bawb eu mwynhau yn unig, ond tarwch olwg ar weithgareddau megis ‘10 minute shakeups’ – i gael pawb i symud ac yn heini.
E bug – Gemau ac adnoddau addysgu hwyliog am ficrobau a gwrthfiotigau ar gyfer disgyblion cynradd, uwchradd ac ôl-16. Mae’r safle yma’n ddwyieithog (ieithoedd Ewropeaidd gan fwyaf) ac mae’n adnodd gwych i blant Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
Bydd Joe Wickes – ‘The Body Coach’ yn dechrau ymarferion AM DDIM am 9am bob bore yn ystod yr wythnos i sicrhau fod plant yn “symud, bod ganddynt egni, yn teimlo’n gadarnhaol ac yn optimistig”. Sianel The Body CoachTV ar YouTube.
Yn olaf…i’r rhai hŷn, peidiwch anghofio am eich llyfrgell leol. Tra y bydd ar gau, mae yna gyfoeth o e-lyfrau y gallwch eu lawrlwytho i’ch dyfais electronig am ddim.
http://www.wrexham.gov.uk/welsh/community_w/libraries/ebooks_borrowbooks.htm
Stiwdio Ymarfer GIG – Dewiswch un o’r 24 fideo dan arweiniad hyfforddwyr o’r categorïau ar gyfer ymarfer aerobeg, cryfhau ac ymwrthedd, a pilates ac ioga.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19