Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 20.3.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 20.3.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 20.3.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/03/27 at 10:36 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (19.3.20).
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Yn ogystal â goblygiadau iechyd brawychus, fe wyddom ni fod y feirws yma’n achosi poen meddwl ariannol i lawer o bobl yn Wrecsam ac ar draws y DU.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (19.3.20).Ian Bancroft – Prif WeithredwrY Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y CyngorYsgolionCau ysgolionCludiant i’r YsgolPrydau Ysgol am DdimGwasanaethau wyneb yn wyneb y cyngor ac adeiladau cyhoeddusRhagor o wybodaeth am gau llyfrgelloeddLlythyrau Treth y CyngorCefnogaeth i FusnesauByddwch yn wyliadwrus o sgamiau Covid-19Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Mae pobl yn poeni am yr economi, eu swyddi a’u busnesau. Mae llawer o bobl yn colli oriau am fod rhaid iddynt hunan-ynysu neu gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i edrych ar ôl eu plant.

Dydi’r wlad erioed wedi wynebu her fel hyn mewn cyfnod o heddwch o’r blaen, ac nid yw’n amlwg pa fath o gymorth ariannol fydd ar gael i nifer o bobl a fydd yn cael eu heffeithio’n ddrwg.

Ond rydym am i chi wybod, ein bod ni fel Cyngor yn cydymdeimlo ac rydym ni’n deall. Rydym ni’n rhannu eich poen meddwl.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Os byddwch chi’n cael llythyr am Dreth y Cyngor dros yr wythnosau nesaf ac os ydych chi’n poeni, neu os ydych chi’n poeni am dalu eich rhent tai, fe wnawn ni ein gorau i helpu…a’ch cyfeirio at unrhyw gymorth a chyngor sydd ar gael.

Fel Cyngor, rydym ni’n parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ond mae’n rhaid i ni wneud newidiadau i’r ffordd rydym ni’n darparu ein gwasanaethau bob dydd.

Rydym ni wedi rhoi’r wybodaeth ganlynol at ei gilydd i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r cyngor, ac i ailadrodd y cyngor sy’n cael ei rannu gan Lywodraeth y DU a’r gwasanaethau iechyd.

Ysgolion

Cau ysgolion

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau ar gyfer darpariaeth addysg statudol erbyn diwedd y dydd heddiw.

Serch hynny, bydd ganddynt rôl newydd o ddydd Llun ymlaen – darparu llefydd i blant ‘gweithwyr allweddol’ (yn ôl diffiniad y Llywodraeth, e.e. gweithwyr iechyd a gofal, swyddogion y gwasanaethau brys, gyrwyr cyflenwadau i’r archfarchnadoedd, swyddogion carchar) er mwyn iddynt allu parhau i fynd i’w gwaith. Bydd ysgolion hefyd yn darparu llefydd i blant sydd wedi’u cofrestru’n ddiamddiffyn.

Rydym yn parhau i geisio cael eglurhad ar rai agweddau o’r trefniadau.

Cludiant i’r Ysgol

Bydd trefniadau cludiant i blant sydd yn mynd i’r ysgol o ddydd Llun (h.y. plant gweithwyr allweddol a phlant diamddiffyn) yn parhau fel arfer.

Ond os bydd angen i ni wneud unrhyw newidiadau ar unrhyw adeg, bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i’r rhieni a gofalwyr.

Prydau Ysgol am Ddim

Fe wyddom y bydd rhai rhieni sydd â phlant sy’n arfer derbyn prydau ysgol am ddim yn poeni am y trefniadau newydd.

Rydym ni’n gweithio gyda chynghorau eraill a Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffordd o barhau i ddarparu prydau i’r plant hynny.

Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi cyn gynted ag y byddwn ni’n gwybod mwy.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gwasanaethau wyneb yn wyneb y cyngor ac adeiladau cyhoeddus

Fel y soniwyd ddoe, mae’n holl ardaloedd derbynfa wyneb yn wyneb bellach wedi cau.

Rydym ni’n annog cwsmeriaid i gael gafael ar wasanaethau a chysylltu â ni ar-lein lle bynnag y bo’n bosibl.

Rhagor o wybodaeth am gau llyfrgelloedd

Ni allwch gerdded mewn i’n llyfrgelloedd bellach.

Os ydych chi’n poeni am lyfrau sydd gennych ar fenthyg a dirwyon posibl, peidiwch â phoeni.

Cadwch eich llyfrau llyfrgell gartref. Bydd eitemau’n cael eu hadnewyddu’n awtomatig a bydd pob ffi yn cael ei hepgor. Ni fyddwch chi’n cael dirwy.

Ni fydd modd i chi archebu eitemau o’r llyfrgell, ewch ar-lein. 

Llythyrau Treth y Cyngor

Fe ddylech dderbyn eich bil blynyddol ar gyfer Treth y Cyngor dros y diwrnodau nesaf.

Bydd gwybodaeth ynghlwm â phob bil i chi ei ddarllen. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, peidiwch â phoeni…cysylltwch â ni.

Serch hynny, mae effaith y feirws yn golygu fod llai o bobl ar gael i ateb galwadau ffôn…felly cysylltwch â ni ar e-bost: council.tax@wrexham.gov.uk

Cefnogaeth i Fusnesau

Os ydych chi’n rhedeg busnes yn Wrecsam, mae ein Tîm Busnes a Buddsoddi yn parhau i ddarparu cefnogaeth yn ystod y cyfnod ansicr yma.

Darllen mwy…

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau Covid-19

Mae timau Safonau Masnach ar draws y DU yn derbyn adroddiadau o sgamiau amrywiol sydd yn ceisio manteisio ar y sefyllfa bresennol o ran Covid-19.

Felly os ydych chi’n derbyn cynnig o gymorth, gofynnwch a ydyw’n swnio’n ddilys cyn i chi ei dderbyn.

Yn anffodus, mae yna bobl a fydd yn ceisio manteisio arnoch chi, hyd yn oed yn ystod amser fel hyn.

Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn cael eu darparu:

● Mewn datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys y Prif Weinidog).
● Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol Traders Datganiad ynghylch ein masnachwyr yn ystod cyfyngiadau COVID 19
Erthygl nesaf Online resources Ydi’r plant gartref? Fe allai’r adnoddau yma sydd ar-lein helpu

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English