Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydi’r plant gartref? Fe allai’r adnoddau yma sydd ar-lein helpu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ydi’r plant gartref? Fe allai’r adnoddau yma sydd ar-lein helpu
Busnes ac addysgY cyngor

Ydi’r plant gartref? Fe allai’r adnoddau yma sydd ar-lein helpu

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 23, 2020 12:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Online resources
RHANNU

Wrth i bawb ohonom ddod i arfer â’r sefyllfa o ran cyfyngiadau COVID 19 a bod y plant gartref, mae’n tîm Ysgolion Iach wedi rhoi adnoddau defnyddiol rhad ac am ddim at ei gilydd er mwyn cefnogi addysgu gartref.

Tarwch lygad ar y rhain ar gyfer y sector cynradd:

Great Grub Club – Llawer o weithgareddau hwyliog sy’n ymwneud â bwyd a symud

Go Noodle – Amrywiaeth o fideos sy’n addas i blant sy’n ymwneud â symud ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae adnoddau rhad ac am ddim i ddisgyblion oedran Meithrin a Chynradd ar Twinkle. Maent yn eu cynnig am fis ac mae yna becyn ysgolion ar gau y gellir ei lawrlwytho. Mae gweithgareddau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Ar gyfer Cynradd i Uwchradd:

Hwb – Mae platfform Llywodraeth Cymru yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a gwersi am ddim o’r cyfnod sylfaen i fyny at ôl 16, yn cynnwys ADY. Mae’r pynciau yn cynnwys pob agwedd o addysg o hanes, creu ffilmiau a diogelwch ar y rhyngrwyd i weithgareddau’r Pasg. Safle sydd yn parhau i ddarparu – Gall pob plentyn yng Nghymru gael gafael ar Microsoft Office am ddim drwy’r safle yma.

S4C – adnoddau i ddisgyblion meithrin i uwchradd, heb anghofio oedolion sy’n ddysgwyr hefyd.

BBC Bitesize – amrywiaeth o adnoddau ar gyfer disgyblion cyn ysgol i rai Ôl-16.

Cyfoeth Naturiol Cymru – amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol o:

  • Anifeiliaid, Cynefinoedd a Bioamrywiaeth
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Iaith a Llythrennedd
  • Iechyd a Lles
  • Synhwyrau Naturiol
  • Celfyddydau Mynegiannol

The Pod – Archwiliwch adnoddau trawsgwricwlaidd am ddim i helpu plant ddod i’r afael ag ynni, gwyddoniaeth a chynaliadwyedd. Daliwch sylw plant gyda gemau rhyngweithiol, ffilmiau gwych, pecynnau gwybodaeth ddiddorol a gweithgareddau cyffrous (4-14+oed)

Newid am Oes – Nid ryseitiau iach i bawb eu mwynhau yn unig, ond tarwch olwg ar weithgareddau megis ‘10 minute shakeups’ – i gael pawb i symud ac yn heini.

E bug – Gemau ac adnoddau addysgu hwyliog am ficrobau a gwrthfiotigau ar gyfer disgyblion cynradd, uwchradd ac ôl-16. Mae’r safle yma’n ddwyieithog (ieithoedd Ewropeaidd gan fwyaf) ac mae’n adnodd gwych i blant Saesneg fel Iaith Ychwanegol.

Bydd Joe Wickes – ‘The Body Coach’ yn dechrau ymarferion AM DDIM am 9am bob bore yn ystod yr wythnos i sicrhau fod plant yn “symud, bod ganddynt egni, yn teimlo’n gadarnhaol ac yn optimistig”. Sianel The Body CoachTV ar YouTube.

Yn olaf…i’r rhai hŷn, peidiwch anghofio am eich llyfrgell leol. Tra y bydd ar gau, mae yna gyfoeth o e-lyfrau y gallwch eu lawrlwytho i’ch dyfais electronig am ddim.

http://www.wrexham.gov.uk/welsh/community_w/libraries/ebooks_borrowbooks.htm

Stiwdio Ymarfer GIG – Dewiswch un o’r 24 fideo dan arweiniad hyfforddwyr o’r categorïau ar gyfer ymarfer aerobeg, cryfhau ac ymwrthedd, a pilates ac ioga.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 20.3.20
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 23.3.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English