Mae symbol enwog o hanes Wrecsam wedi’i enwebu am wobr ar ôl cael canmoliaeth ar draws y byd.
Mae Ci Acton yn symbol sydd ynghlwm â hanes Wrecsam, wedi’i ysbrydoli gan y pedwar delw o filgwn sy’n gwarchod Porth Acton, a oedd yn arfer arwain at Ystâd Acton.
Fis Rhagfyr y llynedd, defnyddiodd staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr dechnoleg 3D arloesol i sganio un o ddelwau Cŵn Acton, a oedd yn caniatáu i fodel llawn-faint gael ei greu. Cafodd hwn wedyn ei ddefnyddio i greu mowld, a chafodd copïau o’r cŵn eu creu mewn pedwar gwahanol liw.
Mae’r modelau bach wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg pobl Wrecsam, gartref a thu hwnt.
Mae copïau o’r delwau wedi gwerthu’n dda yn yr Amgueddfa, ond roedd rhai sy’n wreiddiol o Wrecsam ond sydd bellach ar wasgar mewn gwledydd fel Canada ac Awstralia wedi gofyn am rai hefyd – a rhai o’r rhain heb fod adref ers dros 40 mlynedd.
Mae’r cŵn sydd wedi’u creu drwy argraffu 3D bellach â chyfle i ennill gwobr genedlaethol ar ôl cael eu dewis i fod yn rownd derfynol Gwobrau’r Cynnyrch Gorau gan Gymdeithas Mentrau Diwylliannol (Association for Cultural Enterprises (ACE)). Mae’r gwobrau blynyddol yma’n cael eu hystyried fel arwydd o ragoriaeth yn y sector diwylliant, sy’n gwobrwyo’r goreuon am arloesi o amgueddfeydd a safleoedd hanesyddol bach a mawr ar hyd a lled y wlad.
Dim ond tri chynnyrch sydd wedi’i enwebu, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Mawrth.
“Ci Acton yn dwyn atgofion melys iawn”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae Ci Acton wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg trigolion sy’n awyddus i nodi hanes Wrecsam mewn rhyw ffordd, ac mae’n symbol nodweddiadol iawn o Wrecsam.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod y modelau o Gi Acton wedi dwyn atgofion melys iawn o’u plentyndod yn chwarae wrth Borth Acton i bobl sy’n wreiddiol o Wrecsam ond sydd bellach yn byw ar draws y byd ac sydd wedi prynu un o’r modelau.
“Gan hynny, ’dwi’n mawr obeithio mai Ci Acton fydd enillydd gwobr ACE, a fydd yn dod â chydnabyddiaeth haeddiannol iawn iddo yn y sectorau diwylliant a hanes.”
Mae modelau o Gi Acton ar gael yn Amgueddfa Wrecsam am £14.99 yr un.
I weld rhestr lawn o’r ymgeiswyr, ewch i wefan ACE (Dolen gyswllt Saesneg)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Amgueddfa ar 01978 297460 neu drwy e-bostio museum@wrexham.gov.uk.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT