Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailwampio Gorsaf Fysiau Canol Tref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ailwampio Gorsaf Fysiau Canol Tref
Pobl a lleY cyngor

Ailwampio Gorsaf Fysiau Canol Tref

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 7, 2018 3:33 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bus station
RHANNU

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Gorsaf Fysiau Wrecsam i ddelwedd Wrecsam fel tref.

Cynnwys
  • Ail-agor y Swyddfa Wybodaeth
  • “Mae’r Orsaf Fysiau yn ganolbwynt”

Yn ogystal â bod yn rhan allweddol o lwybrau cludiant ar draws Gogledd Cymru, yr Orsaf Fysiau yw’r adeilad cyntaf y bydd y mwyafrif o bobl yn ei weld wrth deithio i Wrecsam.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym ni a’n partneriaid – gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru – wedi treulio llawer o amser yn gwella’r amgylchedd o amgylch yr Orsaf Fysiau, gyda’r nod o wella profiad defnyddwyr yr Orsaf Fysiau a’r cyhoedd yn gyffredinol.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Mae defnyddwyr yr Orsaf Fysiau eisoes wedi gweld rhai gwelliannau yn cael eu gwneud dros yr wythnosau diwethaf gan gynnwys mesurau rheoli plâu, diweddaru goleuadau LED, peintio’r ardal ymgynnull a diweddaru’r byrddau gwybodaeth electronig presennol.

Cwblhawyd y gwelliannau hyn yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Wrecsam i Lywodraeth Cymru am gyllid o £73,000. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd yr Orsaf Fysiau fel man ymgyfnewid cludiant lleol / rhanbarthol a phorth i ganol y dref.

Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn rhan o raglen ehangach o weithiau i wella profiad y teithiwr yn yr Orsaf Fysiau gyda buddsoddiad arfaethedig pellach yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys diweddariadau i systemau Teledu Cylch Caeedig,  seddi gwell, llawr gwrthlithro, ailwampio’r toiledau presennol a’r swyddfa wybodaeth, cyfleusterau storio beiciau ac ail-frandio’r Orsaf Fysiau.

Ail-agor y Swyddfa Wybodaeth

Y newyddion da yw y bydd y gwaith yn cynnwys ail-agor a staffio Swyddfa Wybodaeth yr Orsaf Fysiau.

Bydd y swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a bydd staff yn gallu darparu gwybodaeth am wasanaethau cludiant cyhoeddus; y bysiau sydd yn cyrraedd a gadael yr orsaf a chyfeirio’r cyhoedd at wasanaethau eraill y cyngor yng nghanol y dref.

Bydd Aelodau o Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn trafod cynlluniau ar gyfer yr Orsaf Fysiau yn ystod eu cyfarfod misol, ddydd Mawrth, 13 Chwefror.

Bydd Aelodau hefyd yn trafod y cynnydd arfaethedig i ffioedd ymadael a ffioedd aros ar gyfer darparwyr cludiant yn yr Orsaf Fysiau.

Bydd modd i chi ddilyn y gweddarllediad yn fyw yma.

“Mae’r Orsaf Fysiau yn ganolbwynt”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gwybod bod yr Orsaf Fysiau yn rhan bwysig iawn o Ganol y Dref ac rwyf yn hynod falch o gyhoeddi’r contract newydd a fydd yn gweld y Swyddfa Wybodaeth yn ail-agor ac wedi’i staffio.

“Rydym hefyd yn gwybod bod y swyddfa wedi bod yn bwynt o ddiddordeb i ddefnyddwyr yr Orsaf Fysiau ers peth amser, a bydd staff wrth law i ddarparu gwybodaeth allweddol am  wasanaethau bws a gwasanaethau cludiant eraill.

“Mae Adran Weinyddu’r Cyngor yn awyddus i wella canol y dref ac mae ailwampio’r orsaf fysiau yn un o’r rhannau allweddol er mwyn gwella’r ardal ac annog mwy o bobl i Ganol Tref Wrecsam.

“Rwyf yn edrych ymlaen at gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Bwrdd Gweithredol.”

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ci Acton yn mynd am dro o amgylch y byd Ci Acton yn mynd am dro o amgylch y byd
Erthygl nesaf Mae ein prosiect gwella tai yn gyfle gwych i brentisiaid lleol. Mae ein prosiect gwella tai yn gyfle gwych i brentisiaid lleol.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English