Ydych chi’n defnyddio Caffi Dyfroedd Alun? Os felly, hoffem i chi dreulio amser i roi gwybod am eich barn am ddyfodol y caffi drwy adael eich meddyliau a syniadau ar y Goeden Syniadau sydd wedi’i rhoi ar waith i chi ei defnyddio.
Mae’r caffi yn eiddo i’n Hadran yr Amgylchedd ac mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi ei redeg ers sawl blwyddyn drwy ddarparu cyfleoedd gwaith i’w cleientiaid.
Fel rhan o broses y gyllideb yn gynharach, cytunwyd i adolygu’r trefniant hwn a gofynnwyd i sefydliadau masnachol ac elusennol roi gwybod i ni a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb dros redeg y caffi. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl isod.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Cawsom lefel dda o ymatebion sy’n dangos bod amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau a fyddai â diddordeb mewn symud y caffi ymlaen, gan gyfrannu at les Wrecsam a chreu partneriaethau a chyfleoedd newydd ar y safle.
Bydd y goeden ar gael i chi ei defnyddio am y tair wythnos nesaf.
Yn y llun uchod gyda’r Goeden Syniadau y tu ôl iddynt mae Tony, Richard, Ken a Cynan, ac maen nhw, gyda’u ffrind John (sydd i ffwrdd ar hyn o bryd) wedi bod yn mynd i’r caffi bob dydd am 8 mlynedd. Hoffent weld pethau’n aros fel maen nhw oherwydd eu bod yn credu bod y caffi yn lle gwych a’u neges oedd i beidio newid pethau.
Teimlent fod darparu cyfleoedd ar gyfer pobl anabl yn rhywbeth pwysig, ac yn gwneud y caffi yn lleoliad cyfeillgar a chynhwysol sy’n gwneud iddynt ddod yn ôl tro ar ôl tro.
Maen nhw’n annog pawb sy’n defnyddio’r caffi i roi gwybod beth yw eu barn drwy ddefnyddio’r Goeden Syniadau.
Gallwch cymryd rhan yma
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN