Os ydych yn teithio ar hyd Stryd Fawr Rhiwabon dros yr wythnosau nesaf, mae’n bosibl y cewch eich dal yn ôl ac yn gorfod teithio ar lwybr gwahanol o ganlyniad i waith atgyweirio prif bibellau nwy a gaiff ei gwblhau gan Wales and West Utilities.

Bydd y gwaith yn dechrau ar 13 Awst.

Stryd Fawr Rhiwabon yn cau ar gyfer Atgyweirio Prif Bibellau Nwy

Mae’r gwaith yn croesi cyffyrdd Stryd y Parc a Stryd yr Eglwys a bydd yn cymryd 3 wythnos i’w gwblhau.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Golyga’r gwaith y bydd y Stryd Fawr ar gau ar hyd y ffordd o’i chyffordd â Stryd y Parc i’w chyffordd â Maes Maelor. Bydd yn bosibl i draffig droi i’r dde i Stryd y Parc wrth iddynt gyrraedd y gyffordd o Orsaf Rhiwabon, ond ni chaniateir gwneud unrhyw symudiad arall yn Stryd y Parc a Stryd yr Eglwys.

Bydd mynediad ar gael at bob eiddo yn ystod cau’r ffordd a fydd yn para 3 wythnos, fodd bynnag gall hyn fod drwy’r gwyriadau ar yr arwyddion gan ddefnyddio’r A483, Lôn Llys Newydd, Ffordd Tatham a Ffordd Rhiwabon B5605.

Bydd gwyriadau wedi eu gosod trwy gydol cyfnod y gwaith.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN