Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i sicrhau bron i £160,000 o gyllid i greu Coetiroedd Bach ar bedwar safle ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae Coetiroedd Bach yn goetiroedd brodorol trwchus, sy’n tyfu’n gyflym, tua’r un maint â chwrt tennis. Nid yn unig mae’r coetiroedd hyn yn gartrefi gwych i loÿnnod byw, adar, gwenyn a bywyd gwyllt arall, gall pobl hefyd gysylltu â natur ynddynt, a dysgu amdano.
Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd £159,930 i gyd a rŵan byddwn yn gweithio gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol WoodsWork CIC, sy’n adnabyddus am eu gwaith gyda chymunedau lleol i ddarparu a gwarchod mannau gwyrdd i genedlaethau’r dyfodol, i sefydlu pedwar safle.
Mae’r gwaith wedi dechrau ar y safle cyntaf yn Ysgol Bro Alun a bydd y gwaith ar y tri safle arall arfaethedig yn dilyn, a bwriedir plannu ynddynt yn yr hydref.
Yn y safleoedd, bydd byrddau gwybodaeth ac arwyddion i goetiroedd lleol eraill a mannau ar gyfer natur. Byddwn hefyd yn creu amgylched dysgu cymunedol ac yn cynnwys pobl sydd â diddordeb fel ‘dinasyddion sy’n wyddonwyr’ fel bod mwy o bobl yn y gymuned yn gofalu am y coed.
Bydd WoodsWork CIC yn gweithio’n agos gyda’n cymunedau i ddatblygu cronfa sgiliau’r gymuned leol a sicrhau cynaliadwyedd i’r dyfodol, yn ogystal â chynnal sesiynau gwyddoniaeth i ddinasyddion pan fydd y safleoedd yn cael eu creu a’u datblygu.
Drwy ymgysylltu, bydd pecyn i ysgolion yn cael ei ddatblygu fel y gall ysgolion lleol barhau â’r sesiynau gwyddoniaeth i ddinasyddion a’u hymgorffori i’r cwricwlwm.
Bydd yr holl ddeunyddiau a gwybodaeth yn ddwyieithog. Byddwn yn ymgysylltu â’r ysgolion cyfrwng Cymraeg i helpu i ddatblygu’r pecynnau addysg fel y gallwn eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Rydym yn falch iawn bod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y pedwar safle, fydd o fudd i lawer o bobl yn Wrecsam. Fel rhan o’r prosiectau Cymunedau Carbon Isel ehangach, gallwn rannu ein dysg a dangos sut y gall y coetiroedd bach hyn ailgysylltu pobl â natur a darparu holl fanteision llefydd mwy i natur.”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym wedi cyffroi i allu dangos beth ellir ei gyflawni â darnau llai a chyfyngedig o dir. Mae gennym barciau gwledig gwych yn Wrecsam, ond bydd Coetiroedd Bach yn cynnig rhywbeth newydd a gwahanol. Bydd pobl yn cael mwynhau’r llefydd, yn ogystal â dysgu am fywyd gwyllt a threftadaeth coetiroedd.”
Meddai WoodsWork CIC: “Mae WoodsWork CIC yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda CBSW i blannu pedwar o Goetiroedd Bach, a bydd pob yn un cynnwys ardal ysgol y goedwig. Yn ogystal â phlannu a meithrin y coed, mae’r cysyniad Coetiroedd Bach yn canolbwyntio ar addysg am y byd naturiol, newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd mannau gwyrdd i les, ac mae’r cyfan yn cyd-fynd â nodau ac amcanion ein sefydliad.
“Bydd y Coetiroedd Bach yn ased gwerthfawr i ysgolion a chymunedau lleol ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.”
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Helpwch i leihau carbon yn eich cymuned
Ydych chi’n teimlo’n angerddol am faterion yn ymwneud â’r hinsawdd? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol yn eich cymuned? Rydym yn chwilio am bobl i weithio gyda ni i alluogi byw â llai o garbon mewn cymunedau yn Wrecsam. Os ydych yn credu y gallwch ein helpu ac os ydych yn barod i wneud gwahaniaeth, anfonwch e-bost at decarbonisation@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.