Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darganfod hanes pêl-droed Cymru yn Wrecsam – cyhoeddi teithiau newydd yng nghanol y ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Darganfod hanes pêl-droed Cymru yn Wrecsam – cyhoeddi teithiau newydd yng nghanol y ddinas
Pobl a lle

Darganfod hanes pêl-droed Cymru yn Wrecsam – cyhoeddi teithiau newydd yng nghanol y ddinas

Diweddarwyd diwethaf: 2024/02/09 at 5:24 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Darganfod hanes pêl-droed Cymru yn Wrecsam - cyhoeddi teithiau newydd yng nghanol y ddinas
RHANNU

Mae Amgueddfa Wrecsam a thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer Teithiau Treftadaeth Pêl-droed y ddinas.

Darganfyddwch y lleoedd, y bobl a’r digwyddiadau sydd wedi llywio pêl-droed yn Wrecsam a ledled Cymru dros y 150 mlynedd diwethaf.

Bydd y daith dywys yn mynd â chi i rai o’r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddus yn Wrecsam – cartref ysbrydol pêl-droed Cymru – ac yn cysylltu’r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.

Bydd teithiau Cymraeg a Saesneg yn rhedeg ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Gwener 16 Chwefror
Dydd Gwener 15 Mawrth
Dydd Iau 28 Mawrth
Dydd Gwener 26 Ebrill

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Yn dilyn y llwyddiant a’r adborth gwych a gafwyd o’r teithiau treftadaeth pêl-droed cyntaf y llynedd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi cyfres newydd sbon ar gyfer 2024.

“I’r rhai sy’n ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf, mae hon yn ffordd wych o archwilio’r ddinas a gweld rhai o’n tirnodau mwyaf eiconig. Os ydych chi’n byw’n lleol, dyma gyfle i ddarganfod mwy am y bobl, y lleoedd a’r digwyddiadau a helpodd i lunio gorffennol chwaraeon lliwgar Wrecsam.”

Am fanylion pellach a gwybodaeth archebu, ewch i tudalen eventbrite yr amgueddfa.

Mwy o gynnydd ar gyfer prosiect amgueddfa

Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer ei drawsnewid yn Amgueddfa Dau Hanner newydd.

Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth bêl-droed gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Mae’r dyfarniad cyllid newydd gan Sefydliad Wolfson yn cynrychioli cynnydd mwy rhagorol ar gyfer y prosiect hynod gyffrous hwn.

“Bydd Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru newydd yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys, yma yng nghanol y ddinas, gan ddenu ymwelwyr newydd i Wrecsam o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Ein diolch i Sefydliad Wolfson am ddyfarnu’r grant, ac i dîm y prosiect am y gwaith aruthrol y maent wedi’i wneud i ddod â’r prosiect i’r cam hwn.”

Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner


TAGGED: Cymraeg, Football, history, Museum, Tourism, tours, wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi wedi edrych ar ein swyddi diweddaraf? Edrychwch ar y rhain… Ydych chi wedi edrych ar ein swyddi diweddaraf? Edrychwch ar y rhain…
Erthygl nesaf Tiny Forests Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)

Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
DigwyddiadauPobl a lle

Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam

Gorffennaf 10, 2025
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English