Pan fyddwch chi’n mynd i’r orsaf bleidleisio ddydd Iau, Gorffennaf 4, cofiwch fynd â’ch cerdyn adnabod â llun neu ni fyddwch yn gallu pleidleisio.
Pa ID gaiff ei dderbyn?
Mae ffurfiau derbyniol o ID yn cynnwys
- pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad
- trwydded gyrrwr
- tocynnau teithio rhatach, fel tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+
Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio mathau o brawf adnabod sydd wedi dod i ben os yw’n dal yn bosibl eu hadnabod o’r llun.
Mae rhestr lawn o’r mathau o brawf adnabod a dderbynnir ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â mwy o wybodaeth am y gofyniad newydd.
Mae’r rheolau ynghylch darparu pleidleisiau post wedi newid eleni, darllenwch Sut i bleidleisio os na allwch ddod i orsaf bleidleisio? i ddarganfod mwy.