Rydym ni’n gofyn i bawb fod yn gymdogion da yn ystod yr argyfwng COVID-19 a pheidio ag achosi sŵn nac aflonyddwch diangen i gymdogion.
Mae cynnydd mawr wedi bod yn ddiweddar yn nifer y cwynion am sŵn domestig. Mae cwynion o’r fath yn 50% yn uwch yma yn Wrecsam a 48% yn uwch yn y DU o gymharu â’r un cyfnod yn y blynyddoedd a fu.
Mae’r cwynion hyn yn ymwneud â cherddoriaeth, cŵn yn cyfarth, DIY a synau eraill. Un peth sydd wedi cyfrannu at hyn ydi’r tywydd braf, sy’n golygu bod mwy o bobl yn clywed eu cymdogion.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Gan fod cymaint ohonom ni gartref yn ystod y cyfnod anodd hwn mae’n anodd iawn peidio â threulio amser yn ein gerddi neu wneud ychydig o DIY. Ond cofiwch feddwl am eich cymdogion pan fyddwch chi’n gwneud hyn. Gofynnwch i chi’ch hun – ydw i’n achosi gofid neu bryder i bobl eraill o’m cwmpas?
Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Mae arnom ni eisiau goresgyn hyn gyda chymunedau iach a hapus ond, er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni gofio am ein cymdogion. Plîs byddwch yn gyfrifol a’n helpu ni gyda hyn. Arhoswch yn saff a gobeithio y cawn ni ddechrau dychwelyd i normalrwydd yn fuan.”
Os ydych chi wedi’ch effeithio gan sŵn mae yna ap ar gael – The Noise App – lle fedrwch chi gofnodi niwsans sŵn ar eich ffôn clyfar neu ffôn symudol ac anfon eich cofnodion drwy wefan ddiogel at ein Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.
Mae yna hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y cwynion am danau domestig, yr ydym ni wedi adrodd amdanyn nhw eisoes.
https://newyddion.wrecsam.gov.uk/please-dont-light-bonfires/
Mae cyngor ar osgoi sŵn diangen ac aflonyddwch ar gael ar ein gwefan:
https://beta.wrecsam.gov.uk/service/cwynion-am-swn/cyngor-am-niwsans-swn
Gallwch gyflwyno cwynion am niwsans sŵn neu fwg ar-lein yn defnyddio’r ddolen uchod neu drwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt:
Ffoniwch 01978 292040 neu e-bostiwch: Contact-us@wrexham.gov.uk
Mae’r cyfyngiadau presennol hefyd yn achosi pryderon ynghylch iechyd meddwl ac mae cynnydd amlwg wedi bod ar draws y wlad yn nifer yr adroddiadau am drais domestig, sydd fwy na thebyg yn gysylltiedig â phobl yn treulio mwy o amser gartref. Mae cyngor a chymorth ar gael gan y sefydliadau canlynol:
Iechyd Cyhoeddus Cymru – https://phw.nhs.wales/howareyoudoing
Llinell gymorth Refuge – https://www.nationaldahelpline.org.uk/
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
LATEST INFO ON COVID-19
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19