Wrth i fis Ebrill agosáu rydym yn atgoffa trigolion sydd ag ail fin gwyrdd neu fwy ac sydd am eu gwagu bob pythefnos y bydd yn rhaid iddynt dalu £30 fesul bin y flwyddyn.
Roedd y penderfyniad yn rhan o’r broses gyllido Penderfyniadau Anodd, y cytunwyd arni ym mis Chwefror.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd eich bin gwyrdd cyntaf yn cael ei wagu fel rhan o’ch taliad treth cyngor blynyddol.
Os ydych angen i ni i barhau i gasglu’ch biniau gwyrdd ychwanegol o’ch eiddo, am dâl blynyddol o £30 pob bin, mae gwybodaeth ar y gwasanaeth a sut i danysgrifio ar gael yma: www.wrexham.gov.uk neu trwy gysylltu â Balchder yn eich Strydoedd ar 01978 289989.
Er mwyn sicrhau casgliadau o Ebrill 1 2018, gysylltwch â ni mor fuan ag sy’n bosib.
Nodwch – gallwch gadw unrhyw finiau ychwanegol am storfa, ond gwagir biniau sydd wedi cael eu cofrestru gyda Chyngor Wrecsam yn unig o Ebrill 1, 2018. Bydd sticer yn cael ei anfon atoch ar ôl i chi gofrestru.
Rydym yn awgrymu dylech farcio pob bin gyd rhif neu enw’ch tŷ.
Peidiwch ag anghofio – gallwch fynd a’ch gwastraff garddio i’ch Canolfan Ailgylchu agosach, am ddim, neu gallwch gompostio’r gwastraff.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein ymgynghoriad am eu sylwadau, sydd wedi bod o gymorth i ni wneud penderfyniadau anodd. Bydd pawb yn dal i gael gwagu eu bin gwyrdd cyntaf fel rhan o’u treth cyngor.”
TALWCH AM BIN YCHWANGOL RŴAN