Mae ceidwaid a pherchnogion ceffylau yng Nghymru’n cael eu hatgoffa bod dyletswydd gyfreithiol arnynt i ficrosglodynnu eu ceffylau cyn dydd Gwener, 12 Chwefror, sy’n prysur agosáu.
Mae’n ofynnol microsglodynnu ceffylau er mwyn atal camdriniaeth a gwella eu lles. Drwy’r Gronfa Ddata Ceffylau Ganolog bydd yr awdurdodau lleol a’r heddlu yn gallu dod o hyd i bobl sy’n gadael eu ceffylau er mwyn eu cosbi a sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael y gofal y maent yn ei haeddu. Bydd hefyd yn golygu y bydd yn haws dychwelyd ceffylau sydd wedi mynd ar goll neu wedi cael eu dwyn at eu perchnogion.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Bydd pob perchennog ceffyl cofrestredig yng Nghymru wedi derbyn pecyn gwybodaeth ddiwedd mis Tachwedd yn eu hatgoffa o’u dyletswydd gyfreithiol i ficrosglodynnu eu ceffylau.
Os ydych chi’n berchennog neu’n geidwad ceffyl ond heb ficrosglodynnu eich ceffyl eto, bydd angen i chi:
• Wneud apwyntiad gyda’ch milfeddyg
• Cysylltu â’ch PIO i ddiweddaru pasbort eich ceffyl
Gallwch weld rhestr o gwestiynau cyffredin drwy glicio yma.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu gallwch anfon e-bost at equineIDceffylau@gov.wales
CANFOD Y FFEITHIAU