Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Cyngor yn dweud bod y ganolfan frechu yn hwb pwysig i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y Cyngor yn dweud bod y ganolfan frechu yn hwb pwysig i Wrecsam
Arall

Y Cyngor yn dweud bod y ganolfan frechu yn hwb pwysig i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 28, 2021 3:45 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Covid-19 vaccination
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu agor y Ganolfan Frechu Leol gyntaf yng Ngogledd Cymru.

Cynnwys
  • Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n rhan o’r gwaith
  • Peidiwch â mynd i’r safle heb apwyntiad

Mae’r cyngor wedi bod yn pwyso am ganolfan o’r fath yn y fwrdeistref sirol fel rhan o gyflwyno’r brechlyn i gymunedau lleol, ac yn gynharach yr wythnos hon, agorodd y cyfleuster yng Nghanolfan Catrin Finch.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rheoli’r ganolfan, a bydd yn chwarae rôl allweddol yn y rhaglen frechu leol – ochr yn ochr â meddygfeydd Meddygon Teulu a’r Ganolfan Brechu Torfol yng Nglannau Dyfrdwy.

Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n rhan o’r gwaith

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym wedi pwyso am Ganolfan Frechu Leol yn Wrecsam ers y dechrau, ac rydym wrth ein boddau o’i gweld wedi agor ac yn weithredol.

“Mae’n newyddion da ac mae’n hwb pwysig i Wrecsam yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

“Bydd staff iechyd yn y safle yn gwneud gwaith gwych, a hoffwn ddiolch i’r bwrdd iechyd a phawb sy’n rhan o’r gwaith.

“Hoffwn atgoffa pobl i beidio â mynd i’r safle heb apwyntiad. Pan ddaw eich tro chi i gael cynnig brechiad, bydd rhywun yn cysylltu â chi.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi bod yn trafod gyda phartneriaid am gyfnod sylweddol ac mae pawb sy’n rhan o’r gwaith wedi gweithio’n galed.

“Mae’r ganolfan ar agor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, ac mae trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal i edrych ar gynyddu’r oriau agor yn y dyfodol.”

Peidiwch â mynd i’r safle heb apwyntiad

Dyma rai ffeithiau pwysig, a gair i gall:

  • Bydd y ganolfan ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau i ddechrau.
  • Mae modd cael brechiad dim ond drwy wneud apwyntiad.
  • Nid yw’r Ganolfan Frechu Leol yn cynnig gwasanaethau galw heibio.
  • Peidiwch â dod i’r safle heb apwyntiad – ni chewch gynnig brechiad.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno’r rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar gael ar wefan Betsi Cadwaladr.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dysgu o gartref. Diolch yn fawr gennym ni Dysgu o gartref. Diolch yn fawr gennym ni
Erthygl nesaf Horse Racing Bangor Local Cofiwch: Rhaid microsglodynnu bob ceffyl erbyn 12 Chwefror

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English