Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn atgoffa ar feini prawf yn ymwneud ag ysgolion a phlant gweithwyr allweddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Nodyn atgoffa ar feini prawf yn ymwneud ag ysgolion a phlant gweithwyr allweddol
Pobl a lleY cyngor

Nodyn atgoffa ar feini prawf yn ymwneud ag ysgolion a phlant gweithwyr allweddol

Diweddarwyd diwethaf: 2021/01/29 at 12:43 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Reminder on criteria regarding schools and children of key workers
RHANNU

Hoffem anfon neges atgoffa bwysig am yr amgylchiadau cyfyngedig lle caiff plant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed fynd i’r ysgol i dderbyn addysg wyneb yn wyneb.

Cynnwys
Beth ydi’r meini prawf?“Diogelu ein cymunedau”“Parchwch y rheolau”Addysgu gartrefCanllawiau Llywodraeth Cymru:

Beth ydi’r meini prawf?

Ar hyn o bryd mae dysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion wedi’i atal gan Llywodraeth Cymru, ac eithrio i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed os bodlonir y meini prawf canlynol:

Yn ôl y canllawiau diweddaraf DIM OND os nad oes dewis diogel arall y dylai plant gweithwyr allweddol fynd i’r ysgol, a DIM OND ar y diwrnodau y mae eu rhieni’n gweithio.

Gallwch ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar ysgolion yma.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Hyd nes bod gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau heintio, dydi’r canllawiau hyn ddim yn debygol o newid.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

“Diogelu ein cymunedau”

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Dim ond rhieni a gofalwyr sy’n hanfodol i’r ymateb Covid-19, neu sy’n gweithio mewn sectorau allweddol fel gofal cymdeithasol ac iechyd, sydd i fod i ddefnyddio ysgolion a hynny pan nad oes dewis diogel arall ar gael. Mae pob un ohonom ni wedi gweld y cyfraddau heintio diweddaraf yn Wrecsam ac felly mae arnom ni angen gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau.”

“Parchwch y rheolau”

Ychwanegodd Karen Evans, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, mae’n bwysig mai’r unig rai sy’n fanteisio ar y ddarpariaeth yw’r rhai sydd wir ei angen. Rhaid i bawb sy’n gallu aros adref aros adref. Parchwch y rheolau os gwelwch yn dda.

“Mae’n bwysig iawn bod y rheiny sydd angen llefydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu hefyd, fel peidio â rhannu car gyda phobl o aelwydydd eraill neu drefnu mynd i chwarae gyda phlant eraill ar ôl ysgol. Mae’r rhain i gyd yn groes i’r rheolau ac os ydych chi’n gwneud hyn rydych chi’n peryglu’ch teulu ac eraill. Os ydi pawb yn gwneud popeth y gallan nhw, bydd hynny wedyn yn gymorth i leihau cyfraddau heintio ac i ailagor ein hysgolion yn gynt.”

Dywedodd y Cynghorydd Wynn: “Rydym ni’n cydymdeimlo ac yn deall pa mor anodd ydi dysgu gartref i lawer o deuluoedd ar draws Wrecsam, ond mae’n bwysig ein bod ni’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu pawb.”

Addysgu gartref

I dderbyn cyngor ar addysgu gartref, gan gynnwys rhestr o adnoddau defnyddiol, edrychwch ar yr erthygl blog yma:

Dysgu o gartref. Diolch yn fawr gennym ni

Canllawiau Llywodraeth Cymru:

Dydi un gweithiwr allweddol ddim o reidrwydd yn golygu bod y plant yn cael lle yn yr ysgol, ac os oes modd gofalu am y plant yn ddiogel gartref dylid gwneud hynny.

Dydi anawsterau wrth geisio cydbwyso dysgu gartref a gweithio gartref ddim yn rheswm i ddefnyddio’r ddarpariaeth, oni bai bod yr unigolyn sy’n gweithio gartref yn weithiwr allweddol a methu â gofalu am y plentyn yn ddiogel.

Os ydi’r ysgol yn llawn, yn seiliedig ar yr asesiad risg, efallai y bydd rhai plant yn cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar swyddi’r rhieni.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

CANFOD Y FFEITHIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Horse Racing Bangor Local Cofiwch: Rhaid microsglodynnu bob ceffyl erbyn 12 Chwefror
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 — os na fyddwn ar ein gwyliadwraeth rŵan, bydd ein holl waith da’n cael ei golli

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English