Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.
Gallwch wirio eich diwrnod biniau yma. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio eich diwrnod biniau, a gallwch wirio ar ran ffrindiau, teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu enw eu stryd.
Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud hyn dros gyfnod y Nadolig, pan fo newidiadau i’r patrymau casglu arferol yn debygol.
Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasglu biniau yw cofrestru i dderbyn e-byst atgoffa. Os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.
Pethau i’w nodi
- Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Rhagfyr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) ochr yn ochr â’u casgliad deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd.
- Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 25 Rhagfyr, ni fydd unrhyw gartref yn Wrecsam yn cael casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) na chasgliad gwastraff gardd (bin gwyrdd) – dim ond casglu deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd y byddwn ni ddydd Mercher, ddydd Iau a dydd Gwener.
- Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Llun 25 Rhagfyr, na dydd Mawrth 26 Rhagfyr. Bydd preswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn cael gadael gwastraff ychwanegol i’w ailgylchu yr wythnos wedyn, fel y nodir isod.
- Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 1 Ionawr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) ochr yn ochr â’u casgliad deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd.
- Ni fydd unrhyw gasgliadau’n digwydd ddydd Llun 1 Ionawr, felly yr wythnos honno bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyrach (gwiriwch ddyddiadau diwygiedig eich diwrnodau casglu).
Ailgylchu ychwanegol
Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).
Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.
Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.
Cyngor ynglŷn ag ailgylchu cyn y Nadolig – Newyddion Cyngor Wrecsam