Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyllid ECO 4 Wrecsam bellach ar agor i geisiadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyllid ECO 4 Wrecsam bellach ar agor i geisiadau
Y cyngorArall

Cyllid ECO 4 Wrecsam bellach ar agor i geisiadau

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 12, 2023 10:35 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Housing
RHANNU

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymru Gynnes i ddatblygu trefniant partneriaeth, lle bydd Cymru Gynnes yn rheoli pob ymholiad yn ymwneud â cheisiadau am gyllid ECO 4 ar ran Cyngor Wrecsam.

Beth yw cyllid ECO 4?

Mae Rhwymedigaeth Cwmni Ynni 4 (ECO 4) yn rhwymedigaeth ar gyflenwyr ynni sy’n helpu perchnogion tai neu rentwyr preifat i leihau eu biliau ynni, ac felly lleihau allyriadau carbon drwy osod mesurau arbed ynni.

Bydd angen i rentwyr preifat gael cytundeb eu landlord er mwyn i unrhyw waith gael ei gwblhau a bodloni’r meini prawf cymhwysedd angenrheidiol. 

Bydd y cynllun yn parhau tan fis Mawrth 2026 ac mae’n canolbwyntio ar leihau tlodi tanwydd mewn aelwydydd incwm isel a diamddiffyn sy’n byw mewn tlodi tanwydd a/neu sydd â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol sy’n gwaethygu drwy fyw mewn amodau oer.

Mae pob un o’r contractwyr wedi’u cymeradwyo gan Trustmark ac wedi’u fetio’n drylwyr gan Cymru Gynnes. Bydd rhestr yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cymru Gynnes, ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol arall ar y Cynllun.

Os credwch y gallech fod yn gymwys ar gyfer Cyllid ECO, gallwch wneud cais drwy un o’r contractwyr cymeradwy a restrir ar Wefan Cymru Gynnes, yn seiliedig ar ba fesur yr hoffech gael ei osod.

Bydd y contractwr cymeradwy yn cysylltu â chi i gynnal arolwg a nodi pecyn o welliannau sy’n addas ar gyfer eich eiddo.

Gallai’r gwelliannau gynnwys:

  • Inswleiddio atig
  • Inswleiddio to ar oleddf
  • Inswleiddio to fflat
  • Inswleiddio ystafell yn y to
  • Insiwleiddio wal geudod
  • Inswleiddio waliau allanol
  • Inswleiddio waliau mewnol
  • Inswleiddio’r llawr (llawr soled neu lawr crog)
  • Pympiau gwres yr awyr
  • Pympiau gwres o’r ddaear
  • Boeleri nwy
  • Boeleri trydan
  • Boeleri biomas
  • Rheolyddion gwresogi
  • Gwresogyddion stôr trydan
  • Paneli solar ffotofoltaig
  • Drysau allanol perfformiad uchel
  • Gwydr ffenestri
  • Atal drafft

I gael gwybod mwy, ewch i Wefan Cymru Gynnes.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn

.

Rhannu
Erthygl flaenorol 70 year anniversary of the School Crossing Patrol service Dathlu 70 mlynedd o’r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol
Erthygl nesaf Check your bin day Welsh Cofiwch wirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English